Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 29 Medi 2020.
Dwi yn meddwl bod y Bil yma'n amlygu popeth sy'n anghywir ynglŷn â'r broses o gydsynio deddfwriaethol a'r setliad cyfansoddiadol, fel y mae ar hyn o bryd. Rŷn ni'n ystyried yr LCM, fel rŷn ni wedi clywed, ar Fil sydd dal yn cael ei newid. Dŷn ni wedi cael pedwar LCM gan y Llywodraeth, gan gynnwys y trydydd dydd Gwener diwethaf a'r diweddaraf bore ddoe. Mae yna welliannau wedi cael eu derbyn, fel rŷn ni wedi clywed, y bydd Aelodau yn eu cefnogi, ac y bydd yn sicr o gael eu tynnu allan pan fydd y Bil yn mynd nôl i San Steffan. Ac felly mi fydd yr Aelodau hynny, yn amlwg, fel rŷn ni wedi clywed, am newid eu meddyliau.
Felly, er bod cymaint yn anghywir yn y Bil yma, mae rhywun yn teimlo bod ein dwylo ni wedi'u clymu, oherwydd, wrth gwrs, heb gydsynio i'r Bil yma ddigwydd, fydd gan Weinidogion Cymru ddim y pwerau i gefnogi'n uniongyrchol ffermwyr Cymru drwy gymorthdaliadau. Felly, pa fath o ddewis yw hwnna? Naill ai mae gennym ni'r dewis o gydsynio i ddeddfwriaeth sydd, yn fy marn i, â rhannau ohoni yn gwneud niwed i'r sector ond o leiaf yn amddiffyn ein hawl ni i roi cymorthdaliadau, neu, wrth gwrs, i wrthod cydsyniad yn y gobaith y gallwn ni amddiffyn y sector rhag rhai o'r bygythiadau dwi'n eu gweld yn y Bil, ond, drwy wneud hynny, golli'r hawl i gefnogi'r sector drwy gymorthdaliadau. Felly, dyw e'n fawr o ddewis, mewn gwirionedd. A'r eironi pennaf yn hyn, wrth gwrs, yw—a does neb wedi ei ddweud e eto, dwi ddim yn meddwl—y gwir yw, beth bynnag wnawn ni benderfynu, mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn gweithredu, yn y cyd-destun yma, fel Llywodraeth Lloegr, wrth gwrs, yn gwneud beth fynnon nhw beth bynnag. Dyna'r gwir amdani.
Ond o ran rhai o'r manylion penodol, dwi wrth gwrs yn croesawu'r cymal machlud rŷn ni wedi clywed amdano fe; mae'n rhywbeth dŷn ni wedi galw amdano fe er mwyn sicrhau y bydd yna Fil amaeth i Gymru a bod y Gweinidogion ddim jest yn parhau i ddefnyddio'r pwerau ychwanegol maen nhw wedi eu cael am byth, o bosib. Dwi'n falch hefyd fod trefniadau'n cael eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau rhannu tecach ar y levy cig coch, a dwi'n falch hefyd fod y dryswch o'r posibilrwydd y byddai AHDB yn ymwneud â materion y mae Hybu Cig Cymru ac EIDCymru eisoes yn gyfrifol amdanyn nhw yn cael ei dacluso, a bod hynny'n ddibynnol, wrth gwrs, ar yr angen am ganiatâd Gweinidogion Cymru.
Ond yn ei hanfod, dyna un o'r gwendidau mawr dwi'n gweld fan hyn, sef, wrth gwrs, methiant y Bil yma i roi yn eu lle drefniadau rhynglywodraethol clir a chadarn, nid dim ond o ran polisi a sicrhau bod yna fframwaith cyhyrog yn ei le sy'n hwyluso marchnad fewnol y Deyrnas Unedig ar un llaw, tra, wrth gwrs, yn caniatáu dargyfeirio polisi ar draws y Seneddau datganoledig, ond hefyd y trefniadau ynglŷn â sut mae adnoddau ariannol yn cael eu rhannu yn deg ymhlith Llywodraethau'r Deyrnas Unedig—sut y gallwn ni sicrhau bod pob gweinyddiaeth ddatganoledig yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, yn ogystal, wrth gwrs, â sicrhau trefniadau i ddatrys anghydfod. A dwi'n ofni bod y trefniant sydd wedi cael ei roi yn ei le, neu'r cytundeb anffurfiol yma, efallai, rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gwbl annigonol. Dwi ddim yn gweld Llywodraeth Cymru yn bartner cydradd fel y dylai fod yn y trafodaethau hynny, oherwydd mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ddiwedd y dydd, yn medru gwneud fel y mynnan nhw, beth bynnag y byddwn ni yn ei ddweud.
Mae yna lawer sydd ddim yn y Bil y byddwn i'n hoffi ei weld yn y Bil; mae yna lawer sydd yn y Bil y byddwn i'n awyddus i'w newid, ond, wrth gwrs, dŷn ni ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Ac ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw ein bod ni'n cael y grymoedd er mwyn sicrhau bod Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i barhau i gefnogi yn uniongyrchol y sector amaeth yng Nghymru. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi erioed wedi teimlo mor ddigalon yn pleidleisio o blaid cynnig yn y Senedd yma o'r blaen.