Part of the debate – Senedd Cymru am 8:08 pm ar 29 Medi 2020.
Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar y ddadl ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gwelliant 1 yw'r bleidlais gyntaf, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, neb yn ymatal, ac mae yna 53 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.