Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 29 Medi 2020.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau gan y Prif Weinidog. Awgrymaf i chi, Prif Weinidog, eich bod yn gallu dod i swyddfeydd eich Llywodraeth ym Mharc Cathays, ond na allwch chi ddod i galon democratiaeth Cymru, sydd hefyd yn weithle i chi. A phan ddaw'n fater o wneud datganiadau y tu allan i'r Siambr hon, mae gen i ofn bod gennych chi gryn hanes fel Llywodraeth. Mae dros 2 filiwn o bobl ledled Cymru yn byw o dan gyfyngiadau eich Llywodraeth erbyn hyn; y peth lleiaf y gallwch chi ei wneud yw cynnig cyfle i'w cynrychiolwyr etholedig eich holi am eich penderfyniadau, a dyna pam mae gwneud datganiadau i'r Siambr hon yn gyntaf mor bwysig.
Nawr, ceir rhai pryderon gwirioneddol am effaith cyfyngiadau symud lleol ar bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfyngiadau gyda'r bwriad o ddod o hyd i ryw ffordd o ganiatáu i aelwydydd un person gymysgu â pherson arall. Prin fu'r gydnabyddiaeth o'r effaith ddifrifol y gallai hyn ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig o gofio bod cynifer o aelwydydd un person eisoes wedi gorfod amddiffyn yn ystod y rhan fwyaf o eleni. A gwn eich bod chi wedi dweud eich bod yn pryderu am y bobl oedrannus hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn cael cymysgu ag unrhyw un arall o dan do. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud yn ei gylch, oherwydd rydych chi'n ymwybodol o fodel yr Alban sy'n caniatáu i un person ffurfio aelwyd estynedig gydag un arall? O wybod pa mor anobeithiol o ynysig y mae'n rhaid bod rhai pobl ledled Cymru yn teimlo, a allwch chi ddweud wrthym ni pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi newid y rheoliadau o ran aelwydydd un person, oherwydd rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, mae'n rhaid i ni gynnig gobaith i'r bobl hyn?