Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Medi 2020.
Rydyn ni wedi croesawu llawer mwy o ymwelwyr nag arfer i fannau twristaidd yn fy etholaeth i eleni. Maen nhw wedi dod â hwb haf bach Mihangel i'r economi leol, ond dydy'r profiad ar gyfer yr ymwelydd nac ar gyfer y boblogaeth leol ddim wedi bod yn bleserus ar bob achlysur—problemau parcio a theithio; ciwiau hir, a nid yn unig ar gopa'r Wyddfa; problemau sbwriel. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith negyddol ar brofiad yr ymwelydd ac, wrth gwrs, yn creu rhwystredigaeth mawr i'r boblogaeth leol. Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid canfod ffyrdd i reoli gordwristiaeth a bod gan y Llywodraeth rôl bwysig i'w chwarae drwy dynnu'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn cynllunio ymlaen at dymor llwyddiannus y flwyddyn nesaf?