Cymorth Ariannol i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn yw'r cynnig mwyaf hael o gymorth unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn rhoi mwy o fanylion am gam 3 y gronfa cadernid economaidd mewn datganiad llafar yn ddiweddarach y prynhawn yma.