Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Medi 2020.
Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â manylion y cwmni penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ond rwy'n barod iawn i fynd ar drywydd y pwyntiau y mae wedi eu gwneud. Os hoffai roi manylion y cwmni i mi a'r pryderon sy'n sail i'r cwestiwn y mae wedi ei godi ar ei ran y prynhawn yma, byddaf yn sicr o wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael sylw. A diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am groesawu'r cymorth yr ydym ni yn gallu ei roi i fusnesau yng Nghymru yn fwy cyffredinol.