Diogelwch ar y Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:28, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Darren Millar am hynna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn parhau i fod yn bryder allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi goruchwylio adolygiad o faterion diogelwch ar gefnffyrdd, ac ar ben arall y sbectrwm, mae'r Dirprwy Weinidog yn yr adran honno yn bwrw ymlaen â mentrau fel cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya, a fydd, ar eu pennau eu hunain, yn cael effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.