3., 4., 5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:03, 29 Medi 2020

Rydym ni'n troi eto fan hyn at ran o'n busnes seneddol ni sydd wirioneddol yn arwyddocaol—efallai'r rhan fwyaf arwyddocaol o'n trafodaethau ni ar yr adeg yma. Mae'n ymwneud â'r Senedd yma'n trafod ac, fel rydw i'n disgwyl, yn rhoi sêl bendith i reoliadau sy'n gosod cyfyngiadau difrifol iawn eto ar ryddid unigolion ac ar gymunedau. O ran y rheoliadau yn eitemau agenda 3, 4 a 5 sy'n ymestyn cyfyngiadau COVID i ragor o siroedd, rydym ni yn mynd i fod yn cefnogi, ond—a rydw i'n gwneud y pwynt yma eto—mi ydym ni'n credu y dylid bod yn cyflwyno'r cyfyngiadau ar ardaloedd mor fach â phosib ac y dylid gweithredu yn hyper-lleol, os leiciwch chi, lle bod hynny'n bosib.

Rydw i hefyd yn annog ystyried yn ofalus iawn wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Rydym ni'n edrych arnyn nhw yn eu cyfanrwydd, wrth gwrs, ac rydym ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol, ond mae eisiau edrych yn fanwl iawn ar wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Mae'n bosib bydd eisiau tynhau ymhellach, mewn rhai ffyrdd, beth sy'n digwydd ar ôl i'r tafarndai a'r bwytai gau am 10 o'r gloch a'r angen i wasgaru pobl heb iddyn nhw fynd i gartrefi ei gilydd ac yn y blaen, ond ar yr ochr arall, mae eisiau rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r impact ar les ac iechyd meddwl pobl ac ystyried camau, er enghraifft, i ganiatáu mwy o gyswllt i bobl sy'n debyg o ddioddef o unigrwydd. Mae'n bwysig cofio bod y cyfyngiadau yma'n cael impact ddofn iawn ar bobl o fewn ein cymunedau ni.

Hefyd, mae'n bwysig cofio ein bod ni'n delio â dull o ddeddfu sy'n llai na boddhaol. Dwi'n pwysleisio'r angen i ddod â'r rheoliadau yma o'n blaenau ni cyn gynted â phosib, ac er bod yna lai o oedi rhwng gweithredu'r rheoliadau a'u trafod nhw nag yr oedd yr wythnos diwethaf, rydyn ni'n dal yn fan hyn yn trafod rheoliadau ddaeth i rym mor bell yn ôl â 7 Medi, ac mae'n rhaid trio tynhau'r amserlen.

Ac efo eitem agenda 6, er mai technegol ydy o mewn gwirionedd, yn cywiro camgymeriad blaenorol, dwi yn nodi bod y pwyllgor deddfwriaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad o pam bod angen i'r rheoliadau yma fod wedi dod i rym cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, ac mae yna ofynion clir iawn ar y broses ddylai gael ei dilyn yn Neddf Offerynnau Statudol 1946. Dwi'n nodi yn fan hyn fy niolch i'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith nhw.

A'n olaf, tra mai beth sydd gennym ni yn fan hyn yng ngwelliannau 10, 8 ac 11 ydy cyfyngiadau newydd sy'n gofyn i drigolion yr ardaloedd dan sylw chwarae eu rhan nhw mewn ceisio gwaredu'r feirws, gadewch inni gofio bod yn rhaid i'r Llywodraeth chwarae eu rhan nhw hefyd, yn arbennig felly pan mae'n dod at brofion. Sortiwch y profion; sicrhewch eu bod nhw ar gael pan fydd pobl eu heisiau nhw; bod canlyniadau yn cael eu dychwelyd yn gyflym er mwyn cael dechrau'r gwaith olrhain, a gobeithio wedyn na fyddwn ni ddim angen cymaint o reoliadau fel y rhai sydd o'n blaenau ni heddiw.