Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 29 Medi 2020.
Cyflwynwyd y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw dros gyfnod rhwng 7 Medi ac 17 Medi. Maen nhw'n dangos y camau cyflym ond angenrheidiol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Er mwyn sicrhau ein bod wedi'n harfogi i wneud hynny, rydym ni wedi cynyddu pwerau awdurdodau lleol ac wedi gweithredu cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Dyna'r cyfresi o reoliadau sydd ger ein bron. Yn anffodus, fel y dywedais, rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y cyfraddau heintio cadarnhaol. Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod ni erbyn hyn wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol pellach ar draws Llanelli, Caerdydd ac Abertawe, a ddaeth i rym am 6 yr hwyr ar 26 Medi yng nghyswllt Llanelli, ac am 6 yr hwyr ar 27 Medi yng Nghaerdydd ac Abertawe. Caiff gwelliannau i'r prif reoliadau sy'n berthnasol i Gaerdydd, Abertawe a Llanelli eu trafod yn y Senedd ar 6 Hydref. Fel yr ydym ni wedi nodi yn ein cynllun rheoli'r coronafeirws, mae gennym ni ddull o fonitro achosion, ac rydym yn ceisio rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar yr egwyddorion o bwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson. Byddaf yn mynd i'r afael â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro.
O ganlyniad i ddata sy'n dangos cynnydd cyflym mewn achosion COVID-19 yng Nghaerffili, i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw, cyflwynwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 ar 8 Medi. Cyfeiriaf at bob un o'r rheoliadau dilynol yn ôl rhif eu gwelliant i'r prif reoliadau. Mae'r rheoliadau hyn yn gwahardd aelwydydd yn yr ardal rhag bod yn rhan o aelwyd estynedig neu rhag ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill. Pan fo aelwyd o ardal arall wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd o fewn yr ardal, ni chaiff yr aelwyd yn yr ardal honno bellach ei thrin yn rhan o swigen estynedig yr aelwyd honno. Mae'n gwahardd trigolion yr ardal rhag gadael neu gadw draw o'r ardal heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i drigolion yr ardal ddychwelyd i weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Ac mae'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal rhag dod i mewn i'r ardal honno heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl sy'n bresennol yn yr ardal wisgo gorchudd wyneb pan fyddant mewn safle agored, yn amodol ar yr esemptiadau a'r eithriadau, ac mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyfyngiadau a'r gofynion a gyflwynir gan reoliadau diwygio Rhif 8 gael eu hadolygu ar neu cyn 24 Medi, ac, os cânt eu hail-gyflwyno wedyn, o leiaf unwaith bob saith niwrnod wedi hynny. Yn olaf, mae cyfyngiadau ychwanegol wedi'u gosod ar bob safle sy'n gwerthu alcohol yn ardal yr awdurdod lleol, felly rhaid iddyn nhw roi'r gorau i werthu pob math o ddiodydd meddwol am 10 yr hwyr. Bwriadwyd i hyn fod yn 11 yr hwyr yn wreiddiol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor i helpu atal lledaeniad y feirws, mae cyfyngiad ledled Cymru o roi'r gorau i werthu alcohol am 10 yr hwyr wedi'i weithredu ers hynny ar gyfer pob siop sydd â thrwydded i werthu alcohol.
Ar 17 Medi, cyflwynwyd rheoliadau diwygio Rhif 10 i osod yr un cyfyngiadau ag yr wyf wedi'u disgrifio yn Rhondda Cynon Taf ag a gyflwynwyd ym mwrdeistref Caerffili. Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir: lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo, mae'r rhain wedi deillio'n bennaf o bobl yn peidio â chadw pellter cymdeithasol ac yn anwybyddu'r cyfyngiadau blaenorol. Bu cynnydd mawr yn nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn Rhondda Cynon Taf. Ar 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd am yr un rhesymau.
Yn olaf, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ymyrryd wrth i achosion ddigwydd fel y gallant weithredu i gau tir neu safleoedd lleol unigol ac atal digwyddiadau lleol. Daeth y rhain i rym ar 14 Medi. Rhoddwyd pwerau sy'n cyfateb yn fras i'r rhain i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Alban drwy reoliadau a wnaed gan Lywodraethau'r DU a'r Alban. O dan y rheoliadau hyn, caiff awdurdod lleol gyhoeddi cyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae'r pwerau hyn yn fodd i awdurdodau lleol gymryd camau ataliol effeithiol lle bo amgylchiadau'n gofyn am hynny. Ein bwriad ar hyn o bryd yw y daw'r prif reoliadau i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021. Mae hynny chwe mis o'r adeg y cawsant eu llunio a'u cyflwyno. Felly, bwriedir i'r rheoliadau ddod i ben ar yr un diwrnod.
Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.