3., 4., 5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:20, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl. Byddaf yn ceisio ymdrin â phob un yn ei dro yn fyr. Gan ddechrau gydag Andrew R.T. Davies, mae'n amlwg fy mod yn gresynu at ei ymagwedd yntau a'i grŵp. O'r hyn y maen nhw yn ei ddweud, maen nhw'n ymatal nid am eu bod yn anghytuno â'r mesurau neu nad yw'r mesurau sy'n cael eu gweithredu rywsut yn briodol, ond mae'n gwestiwn ynglŷn â phroses yn hytrach na chanlyniad o ran sut yr ydym yn cadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.

Gallaf ddweud yn llwyr, yn gwbl ddidwyll, wrth bawb a phopeth yng Nghymru nad oes dim byd di-hid yn ein dull gweithredu. Mae'n cymryd llawer iawn o amser, egni ac ymdrech gan Weinidogion, ein swyddogion a'n cyd-Aelodau mewn awdurdodau lleol, sydd hefyd â dewisiadau eithriadol o anodd eu gwneud ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda nhw, gyda'r heddlu ac, yn wir, gyda'n gwasanaeth iechyd wrth gynnal a cheisio deall patrwm yr haint sy'n amlygu ei hun. Yn hytrach na chwilio am wrthdaro, credaf y dylai cynrychiolwyr etholedig fod yn chwilio am ateb i sut yr ydym yn ceisio atal y feirws ac amddiffyn Cymru rhag niwed. 

Mae'n werth cadarnhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn mewn modd sy'n ystyried ein prosesau yma yng Nghymru. Mae'r brif weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r rheoliadau hyn gael cefnogaeth y Senedd neu maen nhw'n methu. Wrth gwrs, yn Lloegr, cyflwynir y rheoliadau cyfatebol gan orchmynion gweinidogol heb i Senedd y DU orfod pleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod ein proses yn well o lawer yn ddemocrataidd ac yn rhoi cyfle i graffu mewn modd bwriadol a rheolaidd, fel y mae i fod i'w wneud.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y materion yn ymwneud â theithio a'r cyfyngiadau teithio. Mae'n ofynnol i mi fod yma gan nad yw'n rhesymol ymarferol i mi wneud fy holl waith heb amrywiaeth o swyddogion eraill yma hefyd. Ar ddyddiau eraill, byddaf yn gwneud gwaith o gartref, pan fydd yn weddol ymarferol i mi wneud hynny. O ran briffio Aelodau, os na chysylltwyd â'r Aelod drwy amryfusedd, yna mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ni edrych arno. Nid yw hynny'n ymgais fwriadol. Unwaith eto, rydym yn ymdrechu'n galed i siarad â chynrychiolwyr etholedig ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan fo'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hyn hefyd. Ac o ran y sylw ynghylch yr amser cau ar gyfer y fasnach letygarwch, mae hynny yn y rheoliadau; 10 o'r gloch ar gyfer rhoi terfyn ar werthu alcohol, a 10.20 gyda'r nos pan fo'n rhaid i'r safle hwnnw gau.

Derbyniaf sylwadau Rhun ap Iorwerth am chwilio am ardal leol o fewn ardal cyngor lle bo hynny'n bosibl. Dyna'n union yr ydym ni wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae Llanelli yn ardal benodol. Pe na bai Llanelli yn rhan o Sir Gaerfyrddin ni fyddem yn ystyried gweithredu yn Sir Gaerfyrddin o ystyried gweddill y cyfraddau sy'n bodoli. Ystyriwn hyn bob tro y byddwn yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gyflwyno'r rheoliadau hyn—a yw'n bosib gweithredu mewn modd sy'n effeithio ar ardal sy'n llai na'r awdurdod lleol cyfan. Ar bob achlysur hyd at y cyfnod hwnnw, gwelsom nad oedd hi'n bosib mewn gwirionedd yn unol â'r dystiolaeth bod y feirws wedi lledaenu ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyfyngiadau lleol i'r sir yw'r rhain, nid ydynt yn rhai rhanbarthol. Felly, nid yw'n golygu y gallwch chi deithio i unrhyw le o'ch dewis ar draws ardal ehangach de Cymru lle mae'r cyfyngiadau ar waith. Mae'n berthnasol i'r awdurdod lleol unigol yr ydych yn byw ynddo—unwaith eto, o ran y sylw am esgus rhesymol y deuaf ato'n ddiweddarach ar gyfer teithio. Rydym ni yn trafod yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol am yr hyn yr ydym ni yn ei wneud a pham, a bydd hynny'n parhau. Rydym yn mynd ati mewn sawl ffordd yn gwbl fwriadol. Nid penderfynu gorfodi'r mesurau hyn yr ydym ni yn ei wneud ac yna rhoi gwybod i awdurdodau lleol am ein penderfyniadau wedyn. Bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, o'i gysylltiadau ei hun, ein bod ni wedi mynd ati mewn modd bwriadol a gofalus iawn.

O ran y pwynt am brofion a wnaeth yr Aelod, rydym ni nawr yn cynnal 10,000 i 11,000 o brofion y dydd ledled Cymru. Erbyn hyn, mae 3,000 i 4,000 o'r profion hynny'n brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru a disgwyliwn i fwy o'r rheini gael eu cyflwyno dros y dyddiau nesaf wrth i ni gynyddu nid yn unig nifer y mannau profi a'r mynediad iddynt, ond faint o brofion sydd ar gael hefyd. Bydd yr Aelod yn gweld, wrth i ni gyflwyno nid yn unig mwy o'r profion hynny ond y lonydd cyson mewn canolfannau profi drwy ffenest y car yr wyf wedi'u cyhoeddi o'r blaen, y bydd gennym ni hefyd gyfres o ganolfannau galw heibio, yna rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod profion Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn y mannau hynny hefyd, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig llenwi'r bylchau sy'n cael eu creu gan heriau rhaglen labordai Goleudy ar hyn o bryd, ond y bydd gennym ni gapasiti ychwanegol beth bynnag o fewn y maes. Rydym ni hefyd yn defnyddio ein hadnoddau profi symudol wrth i gyfraddau heintio gynyddu mewn gwahanol rannau o Gymru.

O ran sylwadau Mick Antoniw, ynghylch y sylw am esgus rhesymol dros deithio, rwy'n credu ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu o ran ceisio nodi'r canllawiau sydd ar gael o ran yr hyn sydd yn esgus ac nad yw'n esgus rhesymol dros deithio. Yr her yw, os byddwn yn darparu canllawiau hyd yn oed yn fwy helaeth a manwl, y bydd gennym ni drwch o reolau yn y pen draw, ac mae'n her i ni. Byddwn yn ystyried y pwyntiau a wnaed yn adroddiadau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ond mae angen inni feddwl ynglŷn â phryd y byddwn ni mewn sefyllfa pan fo hi'n dal yn ymarferol i bobl ddeall—ac mae rhywfaint o hyn yn dibynnu ar farn aelodau unigol o'r cyhoedd am yr hyn sy'n esgus rhesymol mewn gwirionedd, i feddwl ynglŷn â sut maen nhw yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn hytrach na chwilio am ffordd o'u hosgoi. Ac o ran eich sylw am reoliadau'r awdurdodau lleol a'r canllawiau, byddwn yn edrych ar y canllawiau i weld a yw hynny wedi ei gynnwys; derbyniaf eich sylw a byddaf yn gwirio i weld beth sydd ar gael i'r cyhoedd ac ymhle. Derbyniaf hefyd y sylw am y camgymeriad clerigol wrth gyflwyno'r rheoliadau—roedd hynny'n rhywbeth a ddigwyddiodd unwaith yn unig, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Llywydd, rwy'n credu, i gadarnhau bod hynny'n wir. Byddwn yn sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o hynny yn yr ymateb ffurfiol i'ch adroddiad.

Gan droi at Mark Reckless, mae'n gyson—nid wyf yn cytuno ag ef ac nid yw'n cytuno â mi, ond mae'n gyson yn y safbwynt y mae wedi ei arddel drwy gydol y rheoliadau hyn. O ran yr ymchwydd cynyddol, gan ddefnyddio enghraifft Torfaen y canolbwyntiodd yn benodol arni, saith diwrnod yn ôl, y gyfradd fesul 100,000 yn Nhorfaen oedd 22.3, heddiw mae'n 47.9; gallwch weld cynnydd sylweddol yn lefelau'r feirws. Ac oherwydd ein bod yn deall bod y prif gyfraddau'n debygol o fod yn llai na'r sefyllfa wirioneddol—ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr oedi mewn profion yn labordai Goleudy—gallwn faentumnio o hynny nifer y bobl nad ydynt efallai'n dod o'u gwirfodd i gael eu profi.

Y pwynt arall rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio ei ystyried yw'r cyfraddau cadarnhaol—nifer y bobl ym mhob 100 sy'n profi'n gadarnhaol—ac eto, mae'r gyfradd yn Nhorfaen wedi cynyddu dros y saith a 14 diwrnod diwethaf. Credaf ei fod mewn gwirionedd yn cyfiawnhau—ac mae cefnogaeth i hyn ymysg yr holl randdeiliaid lleol—y mesurau a weithredwyd. Rhaid cyfaddef y byddwn yn trafod ac fe ofynnir i'r Senedd bleidleisio ar y rheoliadau hynny ar gyfer Bro Morgannwg, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.

Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, yn gyson â'i gyfeiriad bwriadol sarhaus wrth ddweud bod de Cymru wedi'i throi'n gulag. Credaf y bydd pobl sydd â theuluoedd sydd wedi dioddef mewn gwir gulags yn gweld hynny'n annymunol iawn ac yn gyfeiriad cwbl amhriodol i'w wneud yn y dewisiadau democrataidd yr ydym ni yn eu gwneud yma heddiw, ac yn y bygythiad yr ydym ni yn ei wynebu mewn pandemig iechyd cyhoeddus.

O ran sylwadau Neil McEvoy, mae'r her yn seiliedig yn fras ar gyswllt dan do mewn lleoliadau lletygarwch, ond yn enwedig yn y cartref. Credaf fod ymgais i ddweud na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau symud mewn ardaloedd ac na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yng Nghymru, oherwydd nad yw eraill yn gweithredu'n wahanol mewn rhannau eraill o'r DU. Credaf fod gwneud dim oherwydd nad yw eraill yn gweithredu yn ildio ein gallu i wneud dewisiadau yng Nghymru i ddiogelu a chadw Cymru'n ddiogel. Ac nid wyf yn credu bod hynny'n gam gweithredu priodol o gwbl. Credaf fod camddealltwriaeth hefyd o amcan a diben y profion. Credaf y gallai fod yn ddefnydd da o'i amser petai'n darllen y cyngor penodol a gawsom ni gan ein grŵp cynghori technegol. Credaf y gallai hynny helpu gyda rhai o'r sylwadau a wnaeth. Dywedodd hefyd wedyn ei bod hi'n bwysig ynysu'r feirws, gan fynnu ar yr un gwynt peidio â chael unrhyw gyfyngiadau teithio o gwbl. Rwy'n credu bod hynny'n gamddealltwriaeth gwirioneddol o'r hyn yr ydym ni yn ceisio'i gyflawni ac amcan a diben y rheoliadau hyn. Felly, cyfraniad braidd yn siomedig ac anaddas.

Mae'r rheoliadau sydd wedi'u trafod heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut yr ydym ni yn cydbwyso rhyddid unigol â rheoli bygythiad parhaus y coronafeirws ac mae'n pwyso'n drwm iawn ar feddyliau Gweinidogion sy'n gwneud y dewisiadau hyn ein bod yn gwneud dewisiadau gwirioneddol arwyddocaol ynghylch rhyddid unigol pobl, gan geisio gwneud y peth cywir, wrth gwrs, i gadw Cymru'n ddiogel. Mae ein dull gweithredu yn seiliedig, fel y bu erioed, ar gyngor y prif swyddog meddygol a'i adran, ein cynghorwyr gwyddonol, y grŵp cynghori technegol a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth o Gymru, ledled y DU a thu hwnt.

Fel y dywedais, credaf ein bod yn cymryd camau penodol a chymesur mewn ymateb i'r ymchwydd cynyddol o achosion o'r coronafeirws mewn ardaloedd  awdurdodau lleol penodol. Ond, i orffen, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb parhaus i wneud dewisiadau ac i ddilyn y mesurau i'n cadw ni, ein teuluoedd, ein hanwyliaid a'n cymunedau'n ddiogel. Mae hynny'n golygu cadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, i olchi ein dwylo'n aml ac i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf, ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol sydd ar waith. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a gwneud ein rhan, fel Aelodau etholedig, i helpu cadw Cymru'n ddiogel.