Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 30 Medi 2020.
Nawr, elfen allweddol o economi Ynys Môn, fel y nododd Rhun, yw twristiaeth a lletygarwch. Felly, bydd yr £20 miliwn sydd wedi'i neilltuo fel rhan o drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn hanfodol bwysig i lawer o fusnesau ar yr ynys. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio trydydd cam y gronfa cadernid economaidd i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth i rai dan 25 oed. Bydd cymhelliad i gyflogi pobl ifanc a fyddai fel arall yn cael eu gwthio i'r cyrion ymhellach a'u gadael ar ôl wrth inni edrych tuag at adferiad.
Nawr, rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau fy mod yn croesawu penderfyniad diweddar y Canghellor i ymestyn y gostyngiad TAW i'r sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Roeddwn hefyd yn croesawu ei benderfyniad i ymestyn terfynau amser ad-dalu i fusnesau sydd wedi gohirio TAW a rhoi mwy o hyblygrwydd i fusnesau sydd wedi cael benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth. Yn gyffredinol, serch hynny, mae'r mesurau a gyhoeddwyd ar 24 Medi yn annhebygol o fod yn ddigonol i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn y misoedd i ddod.
Yma, yng Nghymru, rydym wedi addo cynorthwyo pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnesau eu hunain, ac rydym yn cefnogi'r addewid hwnnw gyda £90 miliwn o gyllid. Mae'r grŵp adferiad economaidd ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru hefyd yn ystyried sut y gallwn ddarparu cymorth ar y cyd i fusnesau ar draws gogledd Cymru yn unol â'r cymorth sylweddol rydym eisoes yn ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru drwy wasanaeth Busnes Cymru.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi camau mwy beiddgar ar waith er mwyn sicrhau ein hadferiad economaidd a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU yn y dyfodol. Yn naturiol, roeddem yn hynod siomedig ynghylch y cyhoeddiad gan Hitachi ganol mis Medi. Ac rwy'n ymwybodol iawn o sut roedd pobl yr ynys yn teimlo am y cyhoeddiad, ac yn enwedig yng ngogledd Ynys Môn. Fel y nododd Rhun, bydd yn effeithio nid yn unig ar gymunedau Ynys Môn, ond hefyd ar ogledd-orllewin Cymru ac yn wir ar ranbarth ehangach gogledd Cymru. Er hynny, Wylfa yw'r safle gorau yn y DU ac Ewrop o hyd. Mae'n safle gwych, mae'n un o'r goreuon ar gyfer adweithyddion niwclear ar raddfa gigabeit neu adweithyddion modiwlar bach, ac rwy'n dal i fod yn hyderus nad dyma ddiwedd y daith.
Ni allwn fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn awr heb gydweithio er budd pobl, busnesau a chymunedau gogledd Cymru ac Ynys Môn. Mae cydlynu a chydgynllunio ein gweithredoedd a'n blaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a hirdymor yn allweddol a dyna pam y cynhaliais y digwyddiad bord gron a grybwyllais eisoes, cyfarfod a fynychwyd gan Rhun ap Iorwerth. Roeddwn o'r farn ei fod yn gyfarfod adeiladol, lle buom yn pwyso a mesur cyhoeddiad Hitachi, yn naturiol, ond daethom i gytundeb hefyd ynglŷn â'n priod rolau a chyfrifoldebau ar y camau nesaf. Codwyd nifer o faterion yn y cyfarfod hwnnw ac yn wir, mewn cyfarfodydd ymlaen llaw gydag arweinydd cyngor Ynys Môn. Mae llawer o bethau eisoes wedi cael sylw gan Rhun ap Iorwerth, gan gynnwys dyfodol safle Wylfa, yn amlwg, ond materion pwysig eraill hefyd, megis yr angen i sefydlu safle rheoli ffiniau ar yr ynys. Felly, byddaf yn awr yn cynnal cyfarfodydd teirochrog rheolaidd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac arweinydd cyngor Ynys Môn i drafod y cynnydd y mae pawb ohonom yn ei wneud ar ddatblygu'r materion pwysig hyn.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, byddwn yn parhau i ddarparu pob cymorth posibl i fusnesau ar Ynys Môn, a heddiw, nododd Rhun ap Iorwerth nifer o gyfleoedd ar yr ynys rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Menter Môn a chyngor sir Ynys Môn ar gyllid gogyfer ag astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gwaith cynhyrchu hydrogen gwyrdd a chanolfan ddosbarthu tanwydd ar yr ynys, a bydd yn datblygu cynlluniau pellach i sefydlu economi hydrogen embryonig ar Ynys Môn ac ar gyfer gogledd-orllewin Cymru fel rhanbarth.
Rydym hefyd yn cefnogi busnesau eraill, megis Joloda Hydraroll yn ardal gymunedol Gaerwen, Rondo yn Llangefni ac wrth gwrs, Boxed Solutions ym Mharc Cybi yng Nghaergybi. Mae'r tri busnes, naill ai gyda, neu'n dilyn cyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, bellach yn cynllunio eu rhaglenni ehangu yn y dyfodol, ac rydym yn falch o allu cynnig ein cefnogaeth i'r prosiectau pwysig hyn.
Rydym yn parhau i gydweithio'n rheolaidd â'r awdurdod lleol i wella'r seilwaith parod ar gyfer busnes, megis cysylltiadau trafnidiaeth a manteision eraill y gellir eu gwireddu yn ardal fenter Ynys Môn. Rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn yn ddiweddar fel rhan o fenter ar y cyd â'r awdurdod lleol i ddarparu 30,000 troedfedd sgwâr o unedau cychwynnol diwydiannol newydd ym Mhenrhos, sydd i'w cwblhau fis nesaf.
Ar ynni, sy'n eithriadol o bwysig fel y mae Rhun wedi'i nodi, nid yn unig o ran darparu cyflogaeth, ond er mwyn rhoi delwedd gadarnhaol wych i'r ynys, ac yn wir i ogledd Cymru. Mae Ynys Môn yn arwain y ffordd; mae'n arwain y ffordd o ran arloesi, gan sicrhau hyblygrwydd a rhwydweithiau trydan clyfar. Mae'r ynys hefyd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer datblygu llif llanw, ond bydd datblygiad pellach yn dibynnu ar gymorth refeniw gan Lywodraeth y DU. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn darparu rhagor o dystiolaeth o'r angen am gymorth refeniw gan Lywodraeth y DU ar gyfer technolegau morol yn yr alwad gyfredol am dystiolaeth. Ac rwy'n falch fod gan Gymru ddau barth ar gyfer arddangos araeau tonnau a llanw, gan leihau peth o'r ansicrwydd sy'n arwain at gost uchel cyfalaf a darparu cyfleoedd i ddatblygwyr. Cefnogir y ddau â chyllid yr UE, ac un ohonynt yw safle Morlais yn Ynys Môn.
Soniodd Rhun ap Iorwerth hefyd am sector allweddol arall ar Ynys Môn, sef y sector cynhyrchu bwyd, ac roeddwn wrth fy modd fod un o'r cynigion mwyaf arloesol i gronfa her yr economi sylfaenol yn dod o Ynys Môn, sef rhaglen pysgod cregyn Môn, sy'n ceisio cyflwyno mwy o bysgod cregyn i ysgolion, canolfannau cymunedol, a chyflwyno pobl i'r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn ffordd gymharol syml o goginio—gwn hynny, oherwydd cymerais ran yn un o'u dosbarthiadau coginio—ac rwy'n obeithiol y bydd y cynllun hwn o dan y gronfa her yn llwyddiant mawr. Mae'r holl arwyddion yn dynodi ei fod eisoes wedi bod yn llwyddiant mewn llawer o gymunedau ar draws Ynys Môn.
Ac wrth gwrs, llwyddiant Gemau'r Ynys y cyfeiriodd Rhun ato. Am gyfle gwych; roedd taer angen newyddion da arnom, a chafodd ei roi i ni gan Dîm Ynys Môn. Ac roeddwn wrth fy modd ein bod, fel Llywodraeth Cymru, wedi gallu cyfrannu £400,000 i helpu i sicrhau'r digwyddiad gwych hwn.
Rhaid i mi sôn am y fargen twf, wrth gwrs, bargen twf gogledd Cymru. Mae'n mynd rhagddo'n dda a bydd yn elfen bwysig yn adferiad gogledd Cymru yn y dyfodol. Bydd nifer o gyfleoedd, fel y gwn fod yr Aelodau'n gwybod, ar gyfer prosiectau ar Ynys Môn drwy'r fargen twf. Mae'n rhoi cyfle i ogledd Cymru gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel arloesol, ac rydym yn archwilio potensial ehangach porthladd Caergybi fel porth gwych i ogledd Cymru ac i'r DU. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn dal i anelu at lofnodi'r cytundeb terfynol hwnnw, y fargen twf, erbyn diwedd eleni, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Llywodraeth y DU, fel y gall buddsoddiad cyfalaf ddechrau llifo drwy'r rhanbarth ac i Ynys Môn yn 2021. Felly, byddaf yn naturiol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, a byddaf yn gweithio ar draws rhaniadau pleidiol mewn ymdrech ar y cyd ac yn gydweithredol i gryfhau economi a chymunedau Ynys Môn.