9. Dadl Fer: Yr heriau a’r cyfleon i economi Môn: Cyfle i fwrw golwg eang ar economi Môn, yn cynnwys pryderon difrifol Brexit, yr heriau a’r cyfleon ym maes ynni, a sut i greu cynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol wrth greu cyfleon economaidd newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:43, 30 Medi 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am y cyfle yma i roi sylw i rai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r etholwyr rydw i'n eu cynrychioli yn Ynys Môn ac, a ninnau'n rhan bwysig o economi rhanbarthol ehangach, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n berthnasol y tu hwnt i'r pontydd hefyd. Mae rhai ohonyn nhw'n hen ffactorau, ffactorau sydd ynghlwm â'n lleoliad ni neu nodweddion daearyddol; eraill yn ffactorau mwy newydd—canlyniadau i gyd-destun gwleidyddol neu economaidd heriol.

Mi dria i roi rhyw drosolwg o le rydw i'n meddwl rydyn ni arni. Rydw i'n edrych ymlaen at weld a ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi ar rai os nad y cyfan o fy argraffiadau i, ac yn barod i ymrwymo i'n cefnogi ni ym Môn ymhob ffordd bosib i ddelifro ar ein dyheadau ni fel cymuned ar yr ynys. Bydd, mi fydd yr hyn sydd gen i i'w ddweud yn swnio'n ddigalon, o bosib, ar brydiau. Mi fydd yna faterion sy'n peri pryder go iawn yn cael eu crybwyll gen i. Pa mor aml ydw i wedi clywed pobl yn dweud, 'Does yna ddim swyddi yma. Does yna ddim byd i gadw'n pobl ifanc ni yma', ac mae yna ddigwyddiadau diweddar sydd wedi atgyfnerthu'r math yna o deimladau. Ond dwi'n berson optimistaidd hefyd, a dwi'n gallu gweld cymaint o gyfleon ar hyn o bryd—cyfleon sydd yma'n barod sydd angen eu meithrin, a chyfleon eraill newydd sy'n egino ar hyn o bryd, ac rydyn ni angen mynd ar eu holau nhw efo'n holl nerth.