Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 30 Medi 2020.
Weinidog, fe wyddoch fy mod wedi ysgrifennu atoch ym mis Awst i ofyn am adolygu'r system, yn dilyn cyhoeddi'r canlyniadau, ac rwy'n falch iawn fod yr adolygiad yn mynd rhagddo. Ond rwy'n poeni am arholiadau, neu arholiadau posibl, yr haf nesaf. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yr haf nesaf. Ond gwn hefyd fod llawer o athrawon a disgyblion yn poeni beth fydd yn digwydd gydag arholiadau’r haf nesaf. A ydych yn paratoi cynllun B, a allai fod yn seiliedig ar waith a aseswyd gan athrawon unwaith eto, ond y tro hwn, wedi'i gymedroli i sicrhau bod tegwch yn y system a bod pawb yn cael graddau sy'n gyfartal ac yn gyfwerth ledled Cymru?