Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Medi 2020.
Weinidog, mewn cwestiynau cynharach, fe ddywedoch chi fod yn rhaid i hwn fod yn ddull DU gyfan o sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd adref ar gyfer y Nadolig, a byddwn yn cytuno ar y sail honno, o ystyried y llif trawsffiniol sy'n digwydd gyda myfyrwyr. Fe wnaeth y Gweinidog addysg—yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, dylwn ddweud, mae'n ddrwg gennyf, yn Llundain, ddweud wrth Dŷ'r Cyffredin ddoe y gallai weld y bydd amser darlithoedd a thiwtorialau wyneb yn wyneb yn cael eu hatal yn ffurfiol, ac y byddai popeth yn symud ar-lein fel y gallai myfyrwyr ynysu am bythefnos cyn iddynt adael eu prifysgolion i fynd adref cyn y Nadolig. A yw hwnnw'n gam gweithredu rydych yn cytuno ag ef?