Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch, Darren, am gydnabod yr adnoddau ariannol sydd wedi’u darparu. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, fy ngobaith yw y bydd modd cynnal arholiadau y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, gwyddom fod y feirws hwn a'r pandemig yn anrhagweladwy, felly mae angen inni gael darpariaeth arall ar waith, a bydd angen inni sicrhau y tro hwn—gan fod gennym fwy o amser i gynllunio—fod anghenion penodol plant nad ydynt yn gysylltiedig â chanolfan benodol yn cael cyfle i gael gradd. Felly, gwn fod hyn dan ystyriaeth ar hyn o bryd.