Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Helen Mary. Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol yn amlinellu sut y caiff y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ei ateb. Mae ein gwaith blynyddol yn monitro cynlluniau yn awgrymu bod cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y rhan fwyaf o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Mae rheoliadau newydd y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg yn nodi disgwyliad uwch o ran targedau, ac mae hynny'n cyd-fynd â Cymraeg 2050.