Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch, Weinidog. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn fy mod yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Aelodau eraill ynghylch iechyd meddwl myfyrwyr addysg uwch ar yr adeg anodd hon, a hefyd fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at bob is-ganghellor yng Nghymru i ofyn am sicrwydd ynghylch cymorth i fyfyrwyr. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano’n benodol heddiw oedd atal hunanladdiad. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â mi a James Murray, y bu farw ei fab Ben mewn amgylchiadau trasig drwy hunanladdiad ym mhrifysgol Bryste ddwy flynedd yn ôl. A gaf fi ofyn, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, pa ddiweddariad sydd i’w gael o ran annog prifysgolion i ymgorffori canllawiau rhagorol Papyrus, 'Suicide-safer Universities’, yn eu gwaith? Diolch.