Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch. Y gaeaf hwn, gyda phresenoldeb parhaus, neu atgyfodiad COVID-19 yn wir, rydym am sicrhau bod mwy o bobl nag erioed yn derbyn brechlyn ffliw. Dyna pam ein bod wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau'r nifer fwyaf sy'n bosibl o frechlynnau ffliw, a bydd cyflenwad ychwanegol o'r brechlyn ar gael i gefnogi'r galw cynyddol a ragwelir.