Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 30 Medi 2020.
Teimlaf fod cwestiwn Joyce Watson yn eithriadol o bwysig, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng COVID, lle mae ffigurau'n dangos bod y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau ffliw yn llawer llai ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Efallai mai'r rheswm am hyn yw bod pobl yn ofni mynychu meddygfeydd—rhywbeth a allai ddeillio o amharodrwydd meddygon i ymgysylltu â phawb heblaw pobl sy'n ddifrifol wael. Mae'r nifer isel sy'n manteisio ar y brechlyn yn peri pryder arbennig o gofio bod y ffliw wedi lladd 10 gwaith cymaint o bobl â COVID yn ystod y 14 wythnos diwethaf. A yw hyn yn rhan o'r ystadegau a fyddai'n annog rhai gwyddonwyr i ddweud y gallai'r cyfyngiadau ladd 75,000 o bobl? Weinidog, o gofio'r effeithiau dinistriol y mae cyfyngiadau symud yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol, a allwch chi sicrhau pobl Cymru mai dim ond ar ôl cael yr holl gyngor gwyddonol sydd ar gael y bydd y cyfyngiadau'n digwydd ac y byddant yn dod i ben cyn gynted ag y ceir data nad yw'n cefnogi'r cyfyngiadau?