Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 30 Medi 2020.
Radio Bronglais yw gorsaf radio ysbyty Bronglais, yn darlledu drwy'r dydd, bob dydd, a'r wythnos yma mae Radio Bronglais yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. Dechreuodd yr orsaf yn 1970 pan gyflwynodd aelodau o glwb ieuenctid Bow Street raglen geisiadau ar nos Sul i'r cleifion. Ers hynny, mae'r orsaf wedi mynd o nerth i nerth. Agorwyd stiwdio barhaol gyda chefnogaeth y loteri yn 2001, ac ers 2013 mae Radio Bronglais yn ffrydio dros y we i bedwar ban y byd.
Mae'r orsaf yn cael ei rhedeg gan dîm mawr o wirfoddolwyr ac yn cynnig platfform i dalent newydd lleol. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain, siŵr o fod, yw Aled Haydn Jones, a gyfrannodd yn gyntaf i'r orsaf pan oedd e'n ddisgybl 14 oed yn ysgol Penweddig. Mae Aled bellach newydd ei benodi yn bennaeth ar BBC Radio 1. O Radio Bronglais i Radio 1. Da iawn ti, Aled, mae Aberystwyth yn browd iawn ohonot ti.
Mae'r orsaf wedi'i henwebu am lith o wobrau ar hyd y blynyddoedd. Mae rhai o'r cyfweliadau anoddaf, ac yn sicr rai o'r rhai hiraf, dwi wedi eu cael erioed wedi bod ar Radio Bronglais. Ac, wrth gwrs, mae'r orsaf yn cael ei gwerthfawrogi gan gleifion a staff yr ysbyty.
Yn nwyster y pandemig iechyd yma, dewch inni ddiolch a dathlu cyfraniad pob radio ysbyty, ac yn benodol dymuno pen-blwydd hapus i Radio Bronglais.