Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 30 Medi 2020.
Yn amlwg, fel y clywsom yn y ddadl, y sbardun ar gyfer y drafodaeth ar incwm sylfaenol cyffredinol yw'r don enfawr o newid technolegol sy'n datblygu o flaen ein llygaid. Mae yna ddadl economaidd ynglŷn ag i ba raddau y bydd awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig yn creu diweithdra technolegol torfol yn barhaol. Mae yna economegwyr difrifol sy'n credu bod yr hyn rydym yn sôn amdano'n awr yn rhywbeth sylfaenol wahanol i gamau cynharach o fecaneiddio, ac sy'n credu y bydd graddau'r awtomatiaeth, mewn gwirionedd, yn cyrraedd rhannau o'r economi gwasanaethau. Nid ydym yn sôn yn unig am awtomatiaeth, robotiaid ar lawr y ffatri weithgynhyrchu; rydym yn sôn am wasanaethau proffesiynol coler wen, gwasanaethau cyfreithiol, yn cael eu hawtomeiddio i bob pwrpas, gan arwain at system economaidd gwbl wahanol lle mai lleiafrif yn unig fydd â swyddi o gwbl. Byddai eraill yn dadlau, yn y pen draw, oherwydd bod gan fodau dynol amrywiaeth ddiderfyn o ddymuniadau, y bydd swyddi newydd yn cael eu creu na allwn ni hyd yn oed eu dychmygu yn awr. Ond mae hyd yn oed yr economegwyr hynny'n derbyn y byddwn, dros y 10, 15, 20 mlynedd nesaf, yn wynebu ton enfawr o newid strwythurol cyflym a bydd hynny bron yn anochel yn creu lefelau o ansicrwydd economaidd i nifer fawr o bobl. Felly, beth bynnag yw eich safbwynt, ceir dadl gref dros greu incwm sylfaenol cyffredinol fel ffordd o reoli'r newid hwnnw i ddyfodol economaidd gwahanol iawn.
A cheir dadl arall gysylltiedig. Bydd llawer o bobl wedi dilyn y ddadl ynghylch gwaith Thomas Piketty sy'n dangos bod y saeth, yn sicr o dan gyfalafiaeth, tuag at anghydraddoldeb yn y tymor hir. Un o'r rhesymau am hynny, wrth gwrs, yw oherwydd bod perchnogaeth ar gyfalaf yn nwylo nifer gymharol fach o bobl mewn gwirionedd ac os cysylltwch hynny wedyn ag awtomatiaeth, gallwch weld beth fydd ein sefyllfa yn y pen draw. Oni bai ein bod yn creu system ar gyfer ailddosbarthu incwm sy'n llawer mwy effeithiol na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, byddwn yn gweld yr anghydraddoldeb cynyddol sydd wedi bod yn nodwedd o'r gorllewin datblygedig dros yr holl ddegawdau diwethaf—ac yn wir, mae Piketty yn dadlau, dros ganrifoedd—yn cynyddu'n gynt ac yn gynt dros y blynyddoedd i ddod.
Un o fanteision incwm sylfaenol cyffredinol, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i bobl, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i weithwyr, yw ei fod yn golygu y gallant wrthod yr hyn a alwodd y diweddar David Graeber—a dyfyniad yw hwn, Ddirprwy Lywydd—yn 'bullshit jobs', a gallant wrthod swyddi incwm isel. Felly, mae'n creu'r hyn y mae economegwyr yn ei alw'n daliad cadw newydd, oherwydd nid oes rhaid i bobl dderbyn cyflogau a swyddi ar unrhyw lefel, ac mae'n newid craidd disgyrchiant yr economi mewn gwirionedd o ran pŵer economaidd.
Credaf y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn rhyddhau ton o greadigrwydd, oherwydd byddai—a ydych chi'n cofio'r cynllun lwfans menter? Roedd yn un o'r ychydig bethau a wnaeth Llywodraeth Thatcher y byddwn yn ei gefnogi mewn gwirionedd. Yr hyn a olygai oedd, os oeddech mewn band, ac yn y blaen, neu'n artist sy'n ei chael yn anodd, roeddech yn cael lefel sylfaenol o incwm, pe baech yn defnyddio'r cynllun hwnnw o leiaf, a allai ganiatáu i chi wneud pethau eraill mwy diddorol. Felly, mewn ystyr entrepreneuraidd, mae hon yn ddadl a fyddai'n apelio at rai ar yr ochr dde i'r sbectrwm gwleidyddol—mae creu incwm sylfaenol cyffredinol mewn gwirionedd yn caniatáu i bobl gymryd rhai risgiau yn eu bywydau oherwydd bod ganddynt sicrwydd economaidd sylfaenol sy'n eu galluogi i wneud hynny.
Yn olaf, mae hefyd yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau eraill o ran dewis rhwng gwaith cyflogedig neu dreulio amser gyda'u teuluoedd, fel y dywedodd Helen Mary, ond hefyd dewis rhwng gwaith cyflogedig a gwaith di-dâl, gwaith gwirfoddol, ac yn y blaen, a chaniatáu i gymdeithas elwa o'r buddion hynny. Rwyf o blaid archwilio treial. Credaf y gallai diswyddiadau—yn anffodus, rydym wedi gweld y rheini'n ddiweddar yng Nghymru—fod yn un maes. Mae incwm sylfaenol ieuenctid yn rhywbeth y mae gwledydd eraill wedi'i wneud, ond mae pwynt canolog Helen Mary yn hollol wir—os ydym am wneud hyn fel cenedl, mae'n rhaid inni ddatganoli pwerau lles. Felly, gadewch inni gael cefnogaeth drawsbleidiol i hynny hefyd.