Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru a hefyd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw o bob ochr i'r ddadl, a'r rhai sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw. Os caf, hoffwn gloi drwy fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai incwm sylfaenol cyffredinol leddfu'r rhain.
Yn gyntaf, mater iechyd meddwl gwael. Mae'r elusen Mind wedi adrodd bod mwy na hanner yr oedolion a dwy ran o dair o bobl ifanc wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau symud. Nawr, fel rhywun sydd wedi cydnabod yn agored fy mod yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, mae hyn yn peri gofid mawr, ond yn anffodus, nid yw'n syndod. Nawr, rwy'n deall na all incwm sylfaenol cyffredinol ddatrys y pandemig presennol, ond byddai o leiaf yn gwarantu sylfaen gadarn o sefydlogrwydd ariannol i bawb allu ymdopi â'r argyfwng, sicrhau to dros eu pennau a rhoi bwyd ar y bwrdd.
Enghraifft arall o'r problemau a wynebwn fel cymdeithas yw tlodi mislif, ac er fy mod yn croesawu mentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn, ni allant ddatrys y broblem yn y gwraidd. Golyga tlodi eang fod un o bob saith merch yn ei chael hi'n anodd fforddio cynhyrchion mislif—rheidrwydd dynol sylfaenol. Nawr, o ystyried bod hanner y merched yn teimlo embaras oherwydd eu mislif, dim ond un enghraifft yw hon o sut y mae ein diffyg mynediad at anghenion sylfaenol iawn yn achosi straen diangen a chywilydd i aelodau ieuengaf ein cymdeithas. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn sicrhau mynediad i bawb at y pethau mwyaf sylfaenol.
Nawr, i'r rheini sy'n dadlau nad incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r problemau, ac yn enwedig y rheini sydd wedi cefnogi Llywodraeth Geidwadol y DU dros y 10 mlynedd diwethaf lle mae tlodi wedi cynyddu, byddwn yn dweud hyn: mae'r system bresennol wedi torri. Roedd Helen Mary Jones yn llygad ei lle pan ddywedodd nad yw'r system bresennol yn gweithio. Rhaid inni fod yn feiddgar a dyma'r amser ar gyfer newid.
Mae'r system hon, y system bresennol hon, yn un sylfaenol angharedig. Mae credyd cynhwysol nid yn unig yn anodd ei ddeall ac yn gostus, mae'n gosbol, yn gorfodi sancsiynau am resymau mympwyol ac yn achosi ansefydlogrwydd ariannol i filiynau ledled y DU. Yn wir, mae'r system bresennol, ac yn enwedig credyd cynhwysol, yn methu amddiffyn pobl agored i niwed o gwbl. Er enghraifft, gan fod taliadau'n cael eu gwneud i aelwydydd ac nid i unigolion, gall y rhai sydd wedi'u dal mewn perthynas gamdriniol yn hawdd fod yn agored i reolaeth ariannol, gan ofni y gallant fod yn ddigartref neu'n methu cynnal eu hunain pe baent yn gadael partner camdriniol. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn adfer galluedd ariannol y menywod hyn, gan ddarparu'r rhwyd ddiogelwch sy'n eu grymuso i adael sefyllfaoedd peryglus ac anwadal.
Lywydd, mae gennym gyfle yn awr i wneud newid sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â'r heriau anoddaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ond sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag y newidiadau economaidd anochel a ddaw i'n rhan. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n ofalus ar y pwyntiau a wnaed heddiw ar bob ochr i'r Siambr, ac a gefnogwyd gan alwadau am dreial incwm sylfaenol cyffredinol a allai helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru, oherwydd mae David Rowlands yn llygad ei le, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ddymunol ac yn hanfodol ond mae angen ei gyflwyno'n ofalus. Ac mae'n bwysig—ac fe ddof i ben yn awr, Lywydd—fel y dywedodd Mick Antoniw yn ofalus iawn yn ei gyfraniad pwerus, mae'n bwysig ein bod yn parhau i archwilio'r ddadl hon yn y Senedd oherwydd mae'n iawn ein bod yn siarad amdani yn y Senedd Gymreig hon. Felly, rwy'n falch o gyflwyno hyn yma heddiw. Felly, diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, yr Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig hwn eisoes, a byddwn yn annog eraill, ar ôl dilyn y ddadl, i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.