Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 30 Medi 2020.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon a'r aelodau niferus o'r Senedd sy'n cefnogi'r cynnig. Rwyf wedi clywed rhai pethau am incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod fy ymennydd fel arfer yn diffodd cyn gynted ag y sonnir amdano. Mae bob amser wedi'i gloi i ffwrdd yn y rhan o fy mhen sy'n dweud, 'Rhywbeth am ddim? Nid wyf yn credu hynny.' Felly, er mwyn agor fy meddwl fy hun, gwirfoddolais i gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwyf wedi gwneud rhywfaint o ddarllen a rhywfaint o ymchwil.
Rwyf wedi gweithio drwy gydol fy oes, ers fy arddegau cynnar. Rwyf wedi ennill fy holl arian fy hun, ac rwyf wedi magu pedwar o blant heb fawr o gymorth ariannol nac emosiynol gan y ddau dad. Roeddwn yn gofalu am fy nhad oedrannus yn ystod ei flynyddoedd olaf hefyd. Rwyf wedi gwneud pob math o swyddi—swyddi diraddiol yr oeddwn yn ddiolchgar iawn amdanynt. Rwyf wedi gwneud swyddi am £1 yr awr, ac roeddwn yn falch o gael y rheini. Yr unig adeg yr hawliais unrhyw fath o fudd-dal oedd pan gefais anaf i fy asgwrn cefn. Roedd arnaf angen y rhwyd ddiogelwch honno, ac roeddwn yn ddiolchgar amdani. Wedi dweud hynny, os byddaf byth yn wynebu adegau anodd eto, os bydd un o fy meibion yn colli ei waith, os daw fy merch yn ôl i Gymru a methu dod o hyd i swydd yn ein byd ôl-COVID, rwyf am weld rhwydwaith cymorth ar waith ar eu cyfer, ar gyfer pawb, sy'n dosturiol ac yn realistig, ac yn gallu ymateb i anghenion yr unigolyn.
Rwy'n credu bod system fudd-daliadau'r DU yn llanast, wedi'i gweinyddu gan wasanaeth sifil diysgog sy'n rhoi pwyslais ar dicio blychau ac yn methu ei gael yn iawn. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r budd-dal yn cael ei dalu i bobl mewn gwaith y tu hwnt i mi. Pam y mae'r trethdalwr i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i gyfranddalwyr corfforaethau mawr na fyddant yn talu cyflog teilwng i bobl am waith gweddus? Tra bydd hyn yn parhau, bydd cyflogau'n aros lle maent, ac rwy'n credu eu bod wedi aros yn eithaf gwastad ers y cwymp ariannol. A bydd angen cymorth budd-daliadau ychwanegol ar bobl a banciau bwyd tra bo hyn yn parhau. Mae'n gwbl warthus.
Darllenais gyda diddordeb adroddiadau ynglŷn â threialu incwm sylfaenol cyffredinol yn y Ffindir yn 2018-19, ond y peth sy'n peri pryder i mi yw mai'r canlyniad net oedd bod y di-waith wedi mynd i ddioddef llai o straen ac ychydig yn hapusach. Yn ystod y cyfnod hwn, ni wnaethant chwilio am gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Byddai honno'n broblem fawr. A does bosibl mai'r nod i'r rhai sy'n gallu gweithio—ac rwy'n derbyn na all rhai pobl wneud hynny, ond i'r lleill—yw dihoeni yn eu cartrefi. Rhaid eu hannog i ddod o hyd i waith neu i uwchsgilio. A gadewch inni beidio ag anghofio bod pawb mewn gwaith yn cael £12,500 yn ddi-dreth ac yn osgoi talu yswiriant gwladol o dan £9,500.
Fel rhan o fy ymchwil, edrychais ar fyd y credyd cynhwysol, wedi'i adeiladu ar sail un taliad ar gyfer pob budd-dal sy'n ddyledus. Nid wyf fi'n bersonol yn cael unrhyw anhawster gyda'r cysyniad o gredyd cynhwysol, ond rwy'n anghytuno â'r ffordd y mae wedi'i weinyddu, gan achosi tlodi dyfnach a straen diddiwedd i hawlwyr. Onid yw credyd cynhwysol yr un math o beth ag incwm sylfaenol cyffredinol? Mae hwn yn gwestiwn dilys i'r rhai sy'n gwybod mwy am hyn na mi. Rydym yn cynrychioli cenedl o weithwyr, a dylai pob un ohonynt ymfalchïo'n fawr yn y cyfraniad a wnânt i gymdeithas, beth bynnag a wnânt, ac maent hwy, yn fwy na dim rwy'n credu, am weld chwarae teg. Beth fyddent yn ei feddwl o gynnig o blaid incwm sylfaenol cyffredinol? Nid wyf yn siŵr y bydd yn gyfrwng i ennill pleidleisiau er, yn sicr, nid yw hynny'n rhwystr i'w drafod yn helaeth, ac nid wyf yn siŵr fod pobl gyffredin yn barod amdano. Er fy mod yn deall bod rhai o'r teimladau sy'n sail i'r cynnig yn gwbl ganmoladwy, mae rhai o'r datganiadau ysgubol sydd ynddo yn amheus.
Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig hwn fel y mae. Credwn fod gan yr ymdeimlad o bwrpas, hunan-werth a disgyblaeth y mae swydd yn eu cynnig lawer mwy o werth na'r Llywodraeth yn rhoi arian i'r rhai nad oes ei angen arnynt o reidrwydd. Fel y soniais yn gynharach, mae problemau strwythurol gwirioneddol gyda'r system les yn y wlad hon, yn enwedig y modd y cynhelir busnesau mawr nad ydynt eisiau talu cyflogau gweddus. Er fy mod bellach yn gwybod mwy am incwm sylfaenol cyffredinol, ac am hynny diolch i chi am y ddadl hon, nid wyf yn credu mai incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r broblem ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.