Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw, a thrwy hyn cyflwynaf y cynnig ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru.
Credaf fod Angela Burns wedi rhoi cyfrif diddorol inni o'r arian trethdalwyr a wastraffwyd dros yr 21 mlynedd diwethaf. Mae hyd yn oed yn fwy diddorol o gofio bod y Ceidwadwyr o blaid datganoli, ac eto mae'r dystiolaeth ynglŷn â methiannau datganoli yn amlwg iawn. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud mai methiannau plaid wleidyddol benodol ydynt—Llafur Cymru—yn hytrach na methiannau sefydliad, ac eto y perygl yw eu bod, drwy gyflwyno'r cynnig hwn, yn ddiarwybod yn rhoi beirniadaeth lawn o ddatganoli ei hun i ni. Mae'n debyg ei fod yn dibynnu pa mor ddifrifol rydym yn cymryd ateb datganedig y Ceidwadwyr i'r broblem o wastraffu arian trethdalwyr, sef sefydlu'r hyn y maent yn ei alw'n swyddfa drawsadrannol. Wel, ni chawsom lawer o fanylion yn ei chylch, ac rwy'n meddwl tybed pwy fyddai ynddi. A yw'r Ceidwadwyr yn dychmygu o ddifrif y byddai'r bobl sy'n rhedeg y swyddfa hon yn wahanol o ran meddylfryd i'r bobl y maent yn craffu ar eu gwariant? Credaf i mi glywed Angela yn dweud y byddai'r swyddfa newydd yn cael ei galw'n OGRE, ac rwy'n ofni mai tipyn o fwgan fyddai hi. Mae'n debyg i'r hen jôc am wleidyddion yn ceisio datrys sut i leihau nifer y pwyllgorau drwy sefydlu pwyllgor i ymchwilio i'r mater. A dyna'r cyfan fyddai'r swyddfa drawsadrannol hon: pwyllgor arall. Mae gennym ormod o'r rheini yn barod.
Felly, a yw datganoli wedi cyflawni unrhyw beth? Wel, mae gwelliant y Llywodraeth Lafur yn rhoi rhestr o gyflawniadau i ni, rhestr nad yw'n hir iawn yn fy marn i. Mae eu gwelliant heddiw'n cyfeirio at bresgripsiynau am ddim, er enghraifft. Oes, mae gennym bresgripsiynau am ddim, ond mae gennym wasanaeth iechyd sydd prin yn weithredol. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru dan ryw fath o fesurau arbennig, gyda Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru wedi bod yn y sefyllfa honno ers pum mlynedd hir. Gwn fod problemau gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr hefyd, ond nid yw'n ymddangos eu bod ar yr un raddfa ag yma yng Nghymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod datganoli wedi rhoi gwasanaeth iechyd inni sy'n waeth o lawer na'r un a oedd gennym o'r blaen. Mewn un achos, roedd gennym gleifion na allent fynd i'w hysbyty lleol hyd yn oed, Ysbyty Iarlles Caer, oherwydd bod yr ysbyty'n gwrthod derbyn rhagor o gleifion o Gymru nes bod Llywodraeth Cymru wedi talu'r bil. Ni fyddai'r math hwnnw o beth wedi digwydd cyn i ni gael datganoli.
Beth am y manteision economaidd yr addawyd i bobl Cymru y byddai datganoli'n eu cynnig? Wel, yn 2003, dywedwyd wrthym gan Edwina Hart, Gweinidog Llafur blaenllaw ar y pryd, y byddai tlodi yng Nghymru yn cael ei ddileu drwy ei chynlluniau Cymunedau yn Gyntaf. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hyn o'r diwedd. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu nodi unrhyw dystiolaeth fod yr ardaloedd a gafodd eu cynnwys yn y cynlluniau wedi cael unrhyw fantais economaidd ohonynt. Mae'n wastraff o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac ar ddileu tlodi, wel, beth am yr addewid i godi cynnyrch domestig gros Cymru i 90 y cant o gynnyrch domestig gros cyfartalog y DU erbyn 2010? Ni fuom erioed yn agos at gyflawni hyn, a bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn y mae'n ei wneud fel arfer gyda'i thargedau—mae'n rhoi'r gorau iddynt.
Un maes lle'r ydym yn bendant wedi mynd tuag yn ôl yw mewnfuddsoddi. Pan oedd gennym Awdurdod Datblygu Cymru, roedd Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl a denai fwy nag 20 y cant o holl fewnfuddsoddiad y DU. O dan ddatganoli, cafodd Awdurdod Datblygu Cymru ei ddiddymu er mwyn inni allu gael pwyllgor o fiwrocratiaid yn lle hynny sy'n uniongyrchol atebol i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad yw bod mewnfuddsoddi wedi plymio a dim ond 2 y cant o fewnfuddsoddiad y DU mae'n ei ddenu erbyn hyn. Mae hon yn enghraifft berffaith o'r ffordd y mae datganoli wedi arwain at ddirywiad yng Nghymru yn hytrach nag atgyfodiad.
A gaf fi sôn hefyd am ffordd liniaru'r M4 y soniodd Angela amdani? Roedd dewis rhwng dau lwybr, ond ni ddewisodd Llywodraeth Cymru y naill na'r llall, a dewis peidio ag adeiladu'r ffordd o gwbl yn lle hynny. A hynny ar ôl gwastraffu mwy na £150 miliwn o arian trethdalwyr ar y prosiect. Yn rhyfedd iawn, un o'r rhesymau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros ddiddymu'r cynllun oedd ei gost, ac eto gyda Llywodraeth y DU bellach yn cynnig dod yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru mor obsesiynol ynglŷn â diogelu ei hawliau fel Llywodraeth ddatganoledig fel ei bod yn gwrthod y cynnig o gymorth. Yn y pen draw, yr hyn a gafodd pobl Cymru oedd £100 miliwn o arian wedi'i wastraffu a system ffordd sy'n dal i fethu dod â hwy allan o dwnelau Bryn-glas. Gofynnwch i chi'ch hun: a yw datganoli wedi gwneud unrhyw beth o gwbl i wella economi Cymru? Y cyfan y mae wedi'i wneud yw gwastraffu arian.
Na, er fy mod yn cytuno â llawer o'r teimladau yng nghynnig y Ceidwadwyr, teimlaf mai dull haws fyddai rhoi cyfle i'r cyhoedd yng Nghymru werthuso'r hyn sydd wedi digwydd dros yr 21 mlynedd diwethaf a phleidleisio dros roi'r gorau i holl brosiect aflwyddiannus datganoli. Yr hyn sydd ei angen yw refferendwm arall, gyda phobl Cymru'n cael dewis i ddiddymu Senedd a Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.