Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 30 Medi 2020.
Lywydd, mae sicrhau gwerth am arian yn flaenoriaeth gyson i Lywodraeth Cymru. Roedd hynny'n wir cyn y pandemig ac mae ein hymateb a dargedwyd i ymdrin ag argyfwng COVID-19 wedi'i ysgogi gan yr un ymrwymiad. Mae ein hamcanion fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus, yn fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, rydym yn mabwysiadu dull hirdymor, wedi'i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oherwydd ein bod yn gwybod sut y gall ymagwedd tymor byr niweidio cyfleoedd bywyd, gan gynyddu costau gwastraffus y gellir eu hosgoi i bwrs y wlad. Wrth wneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn gofynion llywodraethu a nodir yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. Mae hyn yn sicrhau bod ystyriaethau gwerth am arian yn rhan annatod o'r gwaith o baratoi a chraffu ar yr holl gyngor gweinidogol ac o brosiectau mawr a gwaith rheoli rhaglenni Llywodraeth Cymru.
Mae tryloywder ac atebolrwydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gwaith craffu sy'n profi'r defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus. Credaf fod hyn yn rhan annatod o'n dull o weithredu. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, cyflwynwyd cyllideb atodol gyntaf gennym ym mis Mai i ddarparu mwy o dryloywder ynghylch manylion yr addasiadau i'r gyllideb a wnaed ers dechrau pandemig COVID-19. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n cofio'r dryswch a grëwyd gan ddiweddariad economaidd y Canghellor yn yr haf, ac ar ôl hynny galwodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol ar Drysorlys y DU i ddilyn ein harfer ni drwy gyhoeddi addasiadau tebyg er mwyn darparu mwy o dryloywder. Ein bwriad yw bod mor dryloyw ag y gallwn fod ynglŷn â'r adnoddau sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i'r addasiadau canlyniadol i grant bloc Cymru ac ynglŷn â dyraniadau o gronfeydd wrth gefn.
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol gyntaf, ysgrifennais at y pwyllgor i roi rhagor o fanylion am gyllid canlyniadol. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi cyllideb atodol arall maes o law yn manylu ar ddyraniadau pellach, a byddwn yn defnyddio datganiadau llafar ac ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn wrth iddi ddatblygu. Rydym bob amser wedi bod o ddifrif ynglŷn â defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus oherwydd y rôl bwerus y gwyddom y gall ei chwarae yn trawsnewid bywydau. Rwy'n falch fod rheolaeth gadarn ar gyllidebau wedi cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau yng Nghymru sy'n ein gosod ar wahân, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal cymdeithasol a datblygiad parhaus ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ledled Cymru.
Yn ystod yr argyfwng, rydym wedi symud yn gyflym i sefydlu cronfa ymladd, a gedwir mewn cronfa wrth gefn ganolog a'i neilltuo ar gyfer ein hymateb i COVID. Yn ogystal â defnyddio symiau canlyniadol newydd, cafodd y gronfa wrth gefn hwb gan gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol, fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. A diolch i'r dull strategol hwn o weithredu, rydym wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau dyraniadau, gan gynnwys bron i £0.5 biliwn i awdurdodau lleol, £800 miliwn i gronfa sefydlogi'r GIG a thros £800 miliwn mewn grantiau i fusnesau. Creffir yn drylwyr ar ddyraniadau o'r gronfa wrth gefn drwy broses a sefydlwyd yn gynnar yn y pandemig. Rwy'n ystyried materion cyllid sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn rheolaidd, gan gynnwys dyraniadau o'r gronfa wrth gefn, gyda chymorth gan Weinidogion eraill ac amrywiaeth o swyddogion. Ac ers mis Mawrth, mae bron i 100 o'r cyfarfodydd hyn wedi'u cynnal, gan gefnogi ein gallu i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau i gydnabod y pwysau dwys sy'n ein hwynebu.
Gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol hefyd o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau personol fel prif swyddog cyfrifyddu. Gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, rwy'n cadeirio bwrdd effeithlonrwydd, sy'n ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau ei hun yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'r broses hon wedi ailddiffinio ein perthynas â chyrff a noddir yn sylweddol, gan sicrhau dull mwy effeithiol a strategol o weithredu, ac arbedion effeithlonrwydd. Rydym hefyd wedi sefydlu canolfan lywodraethu i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru i gyd gael cyngor a her profiadol a phroffesiynol. Mae gwaith craffu gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, yn ffynhonnell ddefnyddiol o her ac arolwg allanol. Caiff yr argymhellion a gynhyrchir eu monitro i'w gweithredu gan bwyllgorau archwilio a sicrwydd risg Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod camau'n cael eu cymryd. Mae Archwilio Cymru yn aelod sefydlog o'r pwyllgor hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y gyfran o weithgarwch y Llywodraeth a gynrychiolir gan yr achosion a godwyd yn ystod y ddadl hon—. Ac mae'n iawn, wrth gwrs, i'r rheini gael eu harchwilio a bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu. Ac fel y nodais yn fanwl, mae gennym broses ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi tua 11,000 o lythyrau dyfarnu grantiau i drydydd partïon o tua 400 o gynlluniau grant gwahanol. Ychydig iawn o'r dyfarniadau grant hynny sy'n arwain at faterion sy'n galw am graffu gan yr archwilydd cyffredinol ac adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Felly, mae'n iawn ein bod yn cydnabod yr achosion y cyfeiriwyd atynt heddiw, ond eithriadau yw'r rhain, yn hytrach na'r rheol. Nid wyf yn credu ei bod yn gredadwy i awgrymu bod yr adroddiadau, sy'n nodi adborth heriol a beirniadol, a hynny'n briodol, yn cefnogi casgliad cyffredinol nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian cyhoeddus yn gyfrifol. Mae sicrhau gwerth am arian yn dibynnu yn y pen draw ar reoli cyllidebau'n gadarn, rhywbeth a danseilir fwyfwy gan wrthodiad Llywodraeth y DU i fod o ddifrif ynglŷn â'r pryderon a godir gan y gweinyddiaethau datganoledig. Disgrifiais nifer o enghreifftiau i fy nghyd-Aelodau o fethiant Llywodraeth y DU i gydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu, sydd wedi gwneud Llywodraeth Cymru yn waeth ei byd—o ostyngiadau cyfalaf ar yr unfed awr ar ddeg i ddiffygion cyllid pensiwn.
Mae'n destun pryder fod Llywodraeth y DU yn dal i wrthod gweithredu o fewn y fframwaith cyllidol i ganiatáu mwy o fynediad at, a rheolaeth ar gronfa wrth gefn Cymru er mwyn cynllunio'n well ar gyfer ein hymateb i'r pandemig eleni. Yn hytrach na chwilio am haelioni newydd o Whitehall, mae'r cais hwn yn ymwneud yn syml â chaniatáu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r cyllid rydym wedi'i neilltuo i allu ymdopi yn ystod cyfnodau ansicr. Byddwn yn parhau i dargedu ein hadnoddau mewn modd sy'n hyrwyddo gwerth am arian i bobl Cymru a byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen i gefnogi'r nod hwnnw.