13. Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 7:24, 6 Hydref 2020

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar un agwedd benodol ar y cynnig sy'n ymwneud â'r is-grwp economaidd cymdeithasol a sefydlwyd gan y Prif Weinidog ar frig y pandemig i edrych ar effeithiau anghymesur y pandemig ar bobl ddu a phobl o liw. Mae hwn yn adroddiad trylwyr a chynhwysfawr ac yn cynnig y ffordd ymlaen ar gyfer gweithredu, a dyna sydd ei angen: gweithredu. Ac mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw yn rhwymo Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion hynny'n llawn a gweithredu ar fyrder i'w rhoi ar waith.

Dwi'n croesawu adroddiad yr is-grŵp yma fel ychwanegiad at y dystiolaeth a'r consensws cynyddol o'r angen i wneud hanes pobl ddu a phobl o liw yn orfodol fel rhan greiddiol o hanes Cymru yn ein hysgolion ni. Mae gwreiddio gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm yn un cam bychan ond sylweddol yn y darlun mawr tuag at waredu hiliaeth strwythurol a systemig yng Nghymru, ac mae yna gyfle gan y ddeddfwrfa yma rŵan, drwy Fil y cwricwlwm, i sicrhau bod hynny yn cael ei warantu mewn cyfraith.

Dwi wedi sôn o'r blaen yn y Siambr yma am sylwadau y Barnwr Ray Singh, un arall sydd wedi datgan nad yw trefn wirfoddol o addysgu am y materion yma yn gweithio ac, o ganlyniad, bod hanes pobl ddu a phobl o liw yn absennol bron o wersi ysgol. Ond, er gwaethaf argymhelliad clir y dylid gweithredu yn ddi-oed i gynnwys hanes ac addysg BAME yng nghwricwlwm cenedlaethol 2022, mae ymateb y Llywodraeth yn bryderus. Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n cydnabod bod datblygu rhai agweddau ar y cwricwlwm newydd yn fater sensitif, ac wedyn yn cyfeirio at weithgor arall y mae hi wedi'i sefydlu, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, i ganolbwyntio ar ddeunyddiau dysgu yn bennaf.

Rŵan, dwi ddim yn gwrthwynebu, wrth gwrs, sefydlu gweithgor Charlotte Williams—i'r gwrthwyneb—ond mae'n fy mhryderu fi bod yna lastwreiddia i'w weld yn ymateb y Llywodraeth i argymhelliad clir yr is-grŵp. Dydy'r gweithgor diweddaraf o dan gadeiryddiaeth Charlotte Williams, hyd y gwelaf i, ddim wedi cael cais i ystyried gwneud hanes ac addysg BAME yn orfodol fel rhan o'r cwricwlwm newydd drwy'r Bil, a does yna ddim disgwyl i'r gweithgor yma adrodd tan y gwanwyn, ac erbyn hynny mae'n bur debygol y bydd Bil y cwricwlwm yn Ddeddf. Felly, mi fyddwn i'n hoffi cael addewid gan y Dirprwy Weinidog heddiw na fydd cylch gorchwyl ac amserlen y gweithgor yma o dan gadeiryddiaeth Charlotte Williams yn llesteirio ar y posibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn derbyn gwelliant yng Nghyfnod 2 a 3 y Bil cwricwlwm ac asesu i wneud hanes pobl ddu a phobl o liw yn elfen fandadol.