Part of the debate – Senedd Cymru am 7:55 pm ar 6 Hydref 2020.
Mae hon yn ddadl bwysig ar hiliaeth. Rydych chi wedi arfer eich hawl ddemocrataidd fel Aelod i gyflwyno gwelliannau, mae gennyf innau swyddogaeth hefyd yn y Senedd hon fel y Llywydd i ddethol gwelliannau, ac rwyf wedi dewis heddiw i beidio â dethol unrhyw un o'r gwelliannau ar gyfer y ddadl. Roedd rhai yn perthyn i chi ac roedd rhai yn perthyn i Aelod annibynnol arall hefyd. A fyddech chi cystal â dod i ben gyda chynnwys eich dadl.