Part of the debate – Senedd Cymru am 7:57 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch, Llywydd. Hon fu'r ddadl fwyaf arwyddocaol ar hil a gynhaliwyd yn y Senedd hon, mewn blwyddyn pan ein bod wedi gweld effaith anghymesur coronafeirws ar bobl groenliw yng Nghymru, y DU a ledled y byd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn modd cadarnhaol ac adeiladol at y ddadl hon. Fel y mae siaradwyr wedi ei ddweud, dyma'r amser i weithredu os ydym ni am alw ein hunain yn gymdeithas drugarog, yn wlad sy'n ceisio bod yn genedl o noddfa, chwarae teg a chydraddoldeb. Mae'n rhaid i ni ddwyn ein holl ymdrechion ynghyd ar draws y Llywodraeth hon yng Nghymru a chyda'n partneriaid i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol sydd wedi eu hamlygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ond yr allwedd i hyn yw cydnabod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â hiliaeth ynom ni ein hunain, yn ein cymunedau a'n sefydliadau os ydym ni am sefyll a chael ein cyfrif wrth gefnogi'r cynnig hwn. Mewn cyfarfod o Mae Bywydau Du o Bwys, yr oeddwn yn bresennol ynddo yn gynharach eleni, ar ôl lladd George Floyd, tynnais sylw at eiriau'r Farwnes Valerie Amos, a ddywedodd:
Rydym ni wedi cael adroddiad ar ôl adroddiad, sy'n dangos y dyfnder...o hiliaeth ym Mhrydain.... Mae angen i ni roi'r gorau i ysgrifennu adroddiadau a dechrau mynd i'r afael ag ef wrth ei wraidd.
Felly, dyma neges y cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yr wyf wedi ei gynnig heddiw, ac rwy'n falch ei fod yn cael ei gefnogi gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae'n anfon neges gref i'n cymunedau amrywiol y byddwn yn cymryd cyfrifoldeb, o dan arweiniad y Llywodraeth hon.
Mae'n briodol trafod hyn heddiw, fel y dywedodd Joyce Watson, ein Comisiynydd cydraddoldebau, wrth i ni ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon 2020. Yn y lansiad yr wythnos diwethaf, roeddwn yn gallu croesawu'r symud o Fis Hanes Pobl Dduon i Hanes Du Cymru 365, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r tîm yn Race Council Cymru i weithio drwy gydol y flwyddyn a chlywed lleisiau pobl hŷn Windrush, noddwyr Hanes Pobl Dduon Cymru, ac, fel y clywsom yr wythnos diwethaf, yr Athro Charlotte Williams a Gaynor Legall, sy'n arwain y gwaith ar ein cwricwlwm a'n harchwiliad o henebion ac enwau lleoedd. Gallaf gadarnhau y bydd yr Athro Williams yn adrodd ar ei hargymhellion interim yn ddiweddarach eleni.
Ond, fel Joyce, rwyf hefyd eisiau cyflwyno'r cynnig heddiw, a'r ddadl hon, er cof am Patti Flynn, y gantores jazz enwog a fu farw'n ddiweddar ar ôl brwydr yn erbyn canser, ac a oedd yn adnabyddus i lawer ohonom ni yma yn y Senedd. Rhoddwyd teyrngedau yn lansiad Mis Hanes Pobl Dduon yr wythnos diwethaf, ac fe'u harweiniwyd gan Humie Webb. Roedd hi'n cofio bod Patti yn byw i weld ei hymgyrch yn cael ei chyflawni yn ystod ei hoes ar ôl ymdrech hir i gael cydnabyddiaeth, a bod yr ymgyrch honno wedi arwain, fis Tachwedd diwethaf, at ddadorchuddio plac i anrhydeddu milwyr BAME o'r diwedd yng Nghofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru, er cof am filwyr BAME a wasanaethodd ac a roddodd eu bywydau mewn gwrthdaro a rhyfel. Collodd Patti ei hun ei thad a dau frawd yn yr ail ryfel byd.
Yr wythnos diwethaf, cymerodd llawer ohonom ni ran hefyd yn lansiad maniffesto Cynghrair Hil Cymru. Cawsom siaradwyr o bob prif blaid yn croesawu'r alwad i 'symud o rethreg i realiti ar gyfer Cymru wrth-hiliol', ac mae hynny'n crynhoi i ble yr ydym ni eisiau mynd ac i ble mae'r bobl sydd wedi siarad heddiw, i gefnogi'r cynnig hwn, eisiau mynd. Roedd negeseuon y grŵp llywio o Gynghrair Hil Cymru yn bwerus iawn, yn glir iawn, fel mae Mymuna Soleman wedi ein hatgoffa mor aml yn ystod y misoedd hyn, pan ddysgwn fwy o'i chaffi ar-lein, Privilege Cafe ac o fudiad Mae Bywydau Du o Bwys y dylem ddefnyddio ein breintiau er daioni. Bydd panel cydraddoldeb hiliol Cymru yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn.
Ac i'r Aelodau hynny sydd wedi siarad yn erbyn y cynnig hwn, byddwn yn eich annog i fynd i Privilege Cafe. Byddwn yn eich annog i wrando ar y bobl ifanc, yn ddu ac yn wyn, yn Mae Bywydau Du o Bwys ledled Cymru—o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, mae gennym grwpiau o bobl, yn enwedig pobl ifanc, sydd wedi ymrwymo i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys ac sydd wedi ymrwymo i wneud ac annog pobl i ysgogi newid. Ond byddwn hefyd yn dweud wrth y bobl hynny sy'n siarad yn erbyn y cynnig hwn: parchwch farn y rhai sydd â'r profiad byw o fod yn bobl dduon, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a dyna lle y byddwn yn dysgu a lle y byddwn yn cymryd ein hymrwymiad.
Felly, heddiw, yn olaf, rydym yn ailymrwymo'r Llywodraeth hon yng Nghymru a'r Senedd hon i sefyll yn erbyn hiliaeth yng Nghymru. Ac fel y dywedodd yr Athro Raj Bhopal, arweinydd Mae Bywydau Duon o Bwys:
Digon yw digon. Byddwch yn arweinyddion y mae'r wlad hon, y byd hwn eu hangen.
Ac mae'n rhaid i hynny fod yn benderfyniad i ni heddiw. Diolch yn fawr.