Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Hydref 2020.
Llywydd, mae camau wedi eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru effaith y coronafeirws ar bobl ifanc. Mae buddsoddiadau newydd mewn hyfforddiant, prentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch, a gwasanaethau iechyd meddwl ymhlith yr ymatebion a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.