Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Hydref 2020.
Prif Weinidog, tynnodd adroddiad gan Barnardo's yn gynharach eleni sylw at yr argyfwng sy'n wynebu maethu, gyda chynnydd o 45 y cant i nifer y plant sydd angen gofal maeth yng Nghymru, ac eto, i'r gwrthwyneb, gostyngiad o 51 y cant i'r gofalwyr maeth sydd ar gael oherwydd y pandemig. Yn amlwg, gallwn ni i gyd werthfawrogi'r problemau y mae hyn wedi eu codi o ran gallu dod o hyd i ofalwyr maeth i bobl ifanc sydd eu hangen yn ddybryd. A allwch chi amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddod â mwy o gydraddoldeb yn ôl yn y sefyllfa hon, i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd gennym ni, fel y gall y plant hyn gael y cymorth, o fewn amgylchedd teuluol, y maen nhw ei angen mor ddybryd?