Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Hydref 2020.
Wel, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod coronafeirws yn cael ac wedi cael effaith ddifrifol iawn ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni gweithgareddau a fyddai, ar unrhyw adeg arall, wedi bod yn ganolog i waith y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny, mae arnaf i ofn, yn anochel, ni ellir ei osgoi. Ac er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed iawn i greu'r amodau lle gellir cyflawni cymaint o weithgarwch â phosibl tra bod yr argyfwng coronafeirws yn parhau, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd amseroedd aros hwy am rai llawdriniaethau yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei weld ers cryn amser.