Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Hydref 2020.
A gaf i ddiolch i Hefin David am hynna, Llywydd? Mae'n galonogol bod nifer yr achosion o coronafeirws wedi parhau i ostwng yn raddol ym mwrdeistref Caerffili dros y saith diwrnod diwethaf. Mae hyn yn adlewyrchiad o ymdrechion ymroddedig pobl sy'n byw yn yr ardal. Cyhyd â bod y gostyngiad hwnnw yn parhau, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i gynllunio ar gyfer codi'r cyfyngiadau hynny yn raddol.