Ymweliadau â Chartrefi Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:24, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yr ydych chi newydd ei grybwyll, wedi codi pryderon am yr effaith y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau, yn ei geiriau hi, ei chael ar iechyd a llesiant preswylwyr cartrefi gofal. Mae'r angen i atal heintiau mewn cartrefi gofal yn hollbwysig, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli ei bod hi'n anodd cydbwyso hyn gydag anghenion emosiynol preswylwyr. Fodd bynnag, rwy'n ofni y gallai'r trawma o wahaniad estynedig oddi wrth aelodau teulu gael effaith echrydus ar bobl sy'n dibynnu ar weld aelodau o'u teulu. Gellid hwyluso ymweliadau trwy gyfuniad o fesurau diogelwch, gan gynnwys rhoi cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant diogelwch COVID i deuluoedd sy'n ymweld, caniatáu ymweliadau awyr agored o bell pan fo hynny'n briodol, a chadarnhau canlyniadau prawf positif gydag ail brofion, fel mai dim ond pan ei bod yn sicr eu bod yn angenrheidiol y caiff cyfyngiadau symud cartrefi gofal 28 diwrnod eu gorfodi. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried, felly, rhinweddau cyhoeddi canllawiau newydd o'r math hwnnw er mwyn ailddechrau rhai ymweliadau teuluol?