Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Hydref 2020.
Llywydd, diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun adfer heddiw. Rydym ni wedi ymrwymo i ailadeiladu sy'n gweithio i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Islwyn, trwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl: mynd i'r afael â diweithdra, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydledig, darparu tai fforddiadwy, adfywio canol ein trefi, a chefnogi'r economi sylfaenol.