Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i Mick Antoniw am roi'r cyfle hwn inni ystyried eto eiriau'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin, pan ddywedodd y byddai arian yn cael ei roi'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, er mwyn ariannu'r atgyweiriadau hynny i ddifrod y llifogydd. Nid ydym eto wedi gweld ceiniog o'r arian hwnnw, ond rydym yn dal i drafod â Llywodraeth y DU. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn ymdrechu i dawelu meddwl yr awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt y dylai'r gwaith barhau ar sail diogelwch, ac na ddylai'r materion ariannu atal y gwaith hwnnw rhag dechrau.