Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch, Llywydd dros dro. Heddiw, rwyf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am effeithiau cyllidol pandemig COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer ein cyllideb yn y dyfodol. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar ymateb i effeithiau'r pandemig a gosod y sylfeini ar gyfer ailadeiladu gyda chymorth newydd ar gyfer swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd.
Mae penderfyniad y Canghellor i ganslo cyllideb hydref y DU, yr ansicrwydd ynghylch adolygiad cynhwysfawr o wariant y DU a'r diffyg gwybodaeth am gyllido fydd yn disodli cronfeydd yr UE i gyd yn cyfrannu at wneud ein gwaith yn anoddach. Ynghyd â'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd hefyd yn gwneud datganiadau i'w deddfwrfeydd priodol heddiw, rydym yn cyflwyno ein ceisiadau ar y cyd i Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd ariannol, cyfle i gymryd rhan ystyrlon yn yr adolygiad o wariant a bargen deg o ran cronfeydd fydd yn disodli cronfeydd yr UE.
Rydym bellach wedi dyrannu bron i £4 biliwn mewn ymateb i effaith y pandemig. Tynnwyd hyn o symiau canlyniadol o Lywodraeth y DU yn ogystal â £0.5 biliwn o gronfa ymateb COVID-19 a grëwyd gennym ni drwy gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol. Ers y gyllideb atodol, rydym ni wedi dyrannu £260 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol a chyllideb sefydlogi ychwanegol o £800 miliwn ar gyfer y GIG, yn ogystal â chymorth ar gyfer blaenoriaethau ehangach yn amrywio o drafnidiaeth gyhoeddus i'r celfyddydau a diwylliant.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi pecyn sylweddol arall o gyllid sy'n dod i gyfanswm o £320 miliwn i helpu pobl a busnesau i oroesi'r cyfnod heriol sydd o'n blaenau. Rydym yn buddsoddi yn y blaenoriaethau ailadeiladu a amlinellwyd gynnau gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gefnogi adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd. Ynghyd â'r buddsoddiad mawr mewn busnesau a sgiliau o fewn y gronfa cadernid economaidd, mae'r mesurau hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein hymdrechion ailadeiladu.
Bydd fy nghyd-Weinidogion yn nodi rhagor o fanylion yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ond gallaf gadarnhau y bydd y camau y byddwn yn eu cymryd i gefnogi plant a phobl ifanc yn cynnwys £15 miliwn i helpu mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach gyda'r offer digidol sydd eu hangen arnyn nhw, ar yr un pryd â hybu capasiti cofrestru i gefnogi pobl ifanc drwy'r ergyd economaidd. Bydd £9.5 miliwn arall yn helpu'r rheini ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 gyda chymorth dal i fyny ychwanegol ar yr adeg dyngedfennol hon yn eu haddysg.
Caiff £60 miliwn arall ei neilltuo i gefnogi cynnydd yn y gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol. Bydd y cam gweithredu hwn yn helpu i hybu swyddi, gyda buddsoddiad mewn tai carbon isel, mwy o effeithlonrwydd ynni ac ymdrechion i leihau tlodi tanwydd. A bydd £14 miliwn yn cefnogi mesurau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy ddilyn ein hagenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu adnoddau naturiol. Mae'r buddsoddiad mawr hwn yn dangos sut y bydd ein hymagwedd at ailadeiladu yn cael ei lywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig, y pwysigrwydd a roddwn ar ymyrraeth gynnar i atal problemau yn y dyfodol.
Er bod y gweithredu hwn yn hanfodol i'n hadferiad, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi. Rwy'n dal yn bryderus iawn bod y cynllun cefnogi swyddi'n cynnwys diffiniad mympwyol o beth yw swydd hyfyw, ac y bydd dim ond yn gwaethygu'r anawsterau i'r rheini sy'n cael eu taro galetaf. Ynghyd â chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rwyf heddiw'n annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r busnesau a'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf; gwneud mwy o ran sgiliau a mwy i greu swyddi i bobl ifanc; a pharhau â chredydau cyffredinol ychwanegol, sydd i ddod i ben ym mis Mawrth, sydd wedi helpu rhai o'r teuluoedd tlotaf i oroesi'r storm. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU hefyd wneud mwy i roi cymorth ychwanegol i unigolion a busnesau mewn ardaloedd dan gyfyngiadau symud lleol.
Mae ansicrwydd o hyd ynghylch faint o gyllid y gallwn ei ddisgwyl eleni. Er imi groesawu gwarant Llywodraeth y DU y gellais ei negodi ym mis Gorffennaf, ers hynny cafwyd nifer o gyhoeddiadau am gyllid pellach yn Lloegr heb eglurder ynglŷn â'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl, yn gwbl briodol, ein cyfran deg o gyhoeddiadau cyllid newydd gan Lywodraeth y DU, ond nid oes gennym ni ffordd o farnu ar hyn o bryd a ydym yn ei gael ai peidio.
Mae'r cefndir hwn yn gwneud yr achos dros fwy o hyblygrwydd ariannol yn bwysicach o lawer. Mae tair enghraifft allweddol o hyblygrwydd newydd sydd eu hangen arnom: (1) y gallu, os oes ei angen arnom, i orwario eleni, hyd at derfyn y gallwn gytuno arno gyda Llywodraeth y DU; (2) y gallu i gario mwy ymlaen yng nghronfa wrth gefn Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol; a (3) gwell mynediad at yr adnoddau yng nghronfa wrth gefn Cymru yn 2021-22 ar gyfer refeniw a chyfalaf. Ynghyd â'm cymheiriaid, rydym gyda'n gilydd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw ddarparu'r gyfres lawn o hyblygrwydd sydd ei hangen arnom ni i reoli'r heriau sy'n ein hwynebu.
Mae diddymu cyllideb hydref y DU a'r ansicrwydd ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn arwain at oblygiadau mawr i'n proses gyllidebol. Ar hyn o bryd, bwriadaf gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft ar 8 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 2 Mawrth 2021. Fodd bynnag, mae'r amserlen hon yn dibynnu'n drwm ar bryd y cawn ni fanylion ein setliad ar gyfer y blynyddoedd i ddod a chasgliad yr adolygiad o wariant. Er fy mod yn parhau i fwrw ymlaen â'n paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft, heb gyllideb gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i mi wneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc a defnyddio gwybodaeth dros dro am yr addasiadau i'r grant bloc. Felly, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am eglurder brys ynghylch cwmpas ac amseriad yr adolygiad o wariant.
Rydym ni hefyd yn wynebu'r ansicrwydd parhaus ynghylch dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran diwedd cyfnod pontio'r UE. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o eglurder ynghylch sut y bydd yn cyflawni addewidion na fydd Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i Brexit ac y caiff datganoli ei barchu'n llawn. Bydd cronfeydd newydd yn rhan annatod o'n hadferiad, felly rhaid datganoli eu darpariaeth yn llawn fel y gallwn eu targedu i ddiwallu anghenion penodol pobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru.
Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn tanseilio hyn, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthsefyll yr ymgais hon i hawlio grym a'r ras i'r gwaelod y mae'n eu cynrychioli. Am y rheswm hwn, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am sicrwydd y bydd yn darparu cyllid llawn a fydd yn disodli rhaglenni'r UE heb amharu ar y setliadau datganoli. Mae angen cyfran deg o'r cyllid arnom ni ar gyfer swyddogaethau newydd a fydd yn dod i Gymru a bydd hynny'n ein helpu i gefnogi cyfnod pontio llyfn wrth inni adael yr UE.
Felly, i gloi, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y galwadau cyfunol yr ydym yn eu gwneud heddiw i ddarparu'r hyblygrwydd a'r cyllid sydd eu hangen i'n galluogi i ymateb i'r heriau'n effeithiol. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n ddiflino i adeiladu dyfodol mwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach i Gymru, ac ategir hyn gan y buddsoddiad sylweddol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw.