6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:17, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Bydd yr Aelodau yn gwybod, wrth gwrs, mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Mae rheoliadau diwygio Rhif 12—nid wyf i'n bwriadu ailadrodd y naratif y mae'r Gweinidog wedi ei roi, y cyfrif cywir o'r hyn y mae'r rheoliadau hynny yn cyfeirio ato yn benodol. Byddaf i'n mynd yn syth at ein hadroddiad ar reoliadau Rhif 12, a nododd dri phwynt teilyngdod. Nododd y cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a'r ail na fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau hyn, ac mae ein trydydd pwynt adrodd yn tynnu sylw at ddau fater pwysig yn ymwneud â'r prif reoliadau yn gyffredinol. Yn gyntaf, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod cadw ar flaen yr holl newidiadau yn mynd yn fwyfwy anodd a dryslyd i aelodau'r cyhoedd. Yn ail, rydym yn tynnu sylw at anghysondeb posibl yn y prif reoliadau y mae angen eu hegluro.

Rwy'n cyfeirio yn awr at reoliadau diwygio Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15. Unwaith eto, mae'r rhain wedi eu hamlinellu gan y Gweinidog o ran eu cynnwys a'r cyfyngiadau maen nhw'n eu dwyn i rym. Nid yw ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn—hynny yw, ar reoliadau Rhif 13, Rhif 14 a Rhif 15—yn codi unrhyw faterion newydd ynghylch cymhwyso cyfyngiadau i gymunedau yng Nghymru, ond rydym ni yn tynnu sylw'r Aelodau at yr adroddiadau i gynorthwyo'r ddadl heddiw.

Ac mae un mater arall yr hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau ato, hynny yw: yn y dyfodol, mae'r pwyllgor yn bwriadu ystyried i ba raddau y mae'r memoranda esboniadol yn cynnwys tystiolaeth o'r rheswm pam y rhoddir cyfyngiadau symud ar rai ardaloedd a'r rhesymau dros y brys hwnnw. Diolch, Llywydd dros dro.