Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 6 Hydref 2020.
Cyfres o reoliadau o'n blaenau ni eto heddiw. Mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 12, sef eitem agenda 6, oherwydd ein bod ni'n cyd-fynd yn gyffredinol â'r budd sydd yn dod o gau tafarndai ac ati yn gynnar, er ein bod ni'n credu y gellid mynd ymhellach na hynny. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant 13, sydd yn ymwneud â Llanelli, lle dangosodd y Llywodraeth eu bod nhw'n gallu gweithredu ar lefel hyperleol.
Rydym ni'n dal i ystyried beth rydym ni am wneud efo gwelliannau 13 ac 15, yn dibynnu ar beth mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud wrthym ni y prynhawn yma. Y rheswm am hynny ydy, yn unol â'r hyn dywedodd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, dwi yn credu y byddai'n wirioneddol bwysig—rwy'n credu ei bod hi'n allweddol, mewn difrif—i'r pwyllgor deddfwriaeth, a thrwy hynny y Senedd, wrth gwrs, gael gweld y data sy'n dangos yn glir pam bod angen gweithredu ar lefel ardal awdurdod lleol cyfan. Mae'n bosib bod angen, mae'n bosib bod y data yn berffaith glir, ond mae angen, er mwyn gallu cefnogi'r rheoliadau, gallu gweld y data yna, ac roeddwn i'n falch o glywed Mick Antoniw yn gwneud y pwynt hwnnw. Mae'r cyfyngiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn rhai sylweddol—nid yr un mor sylweddol ag adeg y lockdown yn ôl ar ddiwedd Mawrth, Ebrill, Mai, ond yn sylweddol serch hynny. Mae angen inni fod yn siŵr dydy pobl ddim yn dioddef fwy nag sydd yn rhaid o ran eu llesiant ac, wrth gwrs, yn economaidd. Mae angen y data, dwi'n meddwl, er mwyn gallu penderfynu os ydy'r cyfyngiadau'n gymesur. Ac, yn achos gwelliant 13, Llanelli, mi wnaeth y Llywodraeth brofi eu bod nhw'n gallu gwneud hynny, ond nid felly efo 14 ac 15. Ac wrth gwrs, mi ddaw'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno yn y gogledd o'n blaenau ni ymhen wythnos, byddwn i'n gobeithio.
Yr elfen arall sy'n pryderu llawer ydy'r anomali lle mae yna waharddiad ar bobl o ardal cyfyngiadau uwch yng Nghymru rhag mynd i ardal risg isel, ond ddim gwaharddiad ar bobl o ardal risg uchel yn Lloegr rhag mynd i'r un ardal. Wel, mae yna ganlyniad i hynny mewn perthynas â'r rheoliadau yma. Mae hynny—yr anomali yna—yn gwneud i'r rheoliadau yma, yn eu tro, ymddangos i rai fel eu bod nhw yn annheg ac yn anghymesur—yn annheg â phobl yng Nghymru. Go iawn, yr anghysondeb sy'n annheg, felly pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gael gwared ar yr anghysondeb hwnnw a sicrhau bod yr un gwaharddiadau yn berthnasol i'r bobl o'r tu allan i Gymru ag y sydd i drigolion a dinasyddion Cymru?