Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 6 Hydref 2020.
O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y data sy'n sail i'r camau y gwnaethom eu cymryd, yn benodol yng nghyswllt Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg, roedd gennym ni ddata bryd hynny a gwnaed achos clir iawn i ni gan bob awdurdod lleol a gan bob bwrdd iechyd perthnasol eu bod, yn yr ardaloedd hynny, yn hyderus, oherwydd y data yr oedden nhw'n eu gweld ynghylch y nifer cynyddol o achosion a'r wybodaeth gymunedol a oedd ganddyn nhw gan TTP, y bydden nhw mewn sefyllfa lle'r oedden nhw yn mynd i fynd uwchlaw'r pwynt data ffurfiol i ymyrryd. A rhoddwyd y pwynt fel a ganlyn: yr oedd gwreichion yr oedd pawb yn gallu eu gweld ac roedden nhw'n awyddus i allu gweithredu cyn bod tân coedwig gwirioneddol. Ac felly, dyna'r gyfatebiaeth a gafodd ei chyflwyno i ni mewn termau clir iawn gan dimau iechyd cyhoeddus yn ogystal â gan bob un o'r arweinwyr a'r prif weithredwyr hynny.
Yn fwy na hynny, fodd bynnag, bryd hynny, roedd gennym ni fwy o her o ran data labordy goleudy. Felly, roeddem ni'n gwybod bod y ffigurau yr oeddem ni yn eu gweld ychydig—wel, roedden nhw hyd yn oed yn hwyrach na'r data a fyddai gennym ni fel arfer. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethom ni drafod hyn fwy nag unwaith gyda'r awdurdodau lleol hynny ac roeddem ni'n gallu gweld, gyda'r data'n cynyddu a'r gyfradd gadarnhaol a oedd gennym ni, mewn gwirionedd, ein bod ni yn bendant yn mynd i gyrraedd pwynt pan fyddem ni yn torri'r marc 50. Ac yna mae'r pwynt ynghylch pam y byddem ni yn aros pe byddai gennym ni'r lefel honno o hyder a barn unedig glir iawn gan ein timau iechyd cyhoeddus, ein hasiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol ac arweinwyr yr awdurdodau lleol dan sylw hefyd, gan gynnwys—ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—arweinyddiaeth y swyddog proffesiynol, nid arweinyddiaeth yr aelodau etholedig yn unig.
Ac yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae gan Gaerdydd gyfradd o 107.9 ym mhob 100,000; Abertawe 111.7; Castell-nedd Port Talbot 81.6; Torfaen 54.3; a Bro Morgannwg 43.4. Mae'r Fro wedi gweld gostyngiad ac mae hynny yn newyddion da. Rydym ni'n dymuno gweld y gostyngiad hwnnw yn parhau ac yna gallem ni fod mewn sefyllfa i godi'r cyfyngiadau hynny, ond roedd hynny wedi mynd yn uwch na 50 ar ôl i ni gymryd y mesurau hyn. Rwy'n credu ei fod yn dangos, os na fydd y Senedd yn pasio'r rheoliadau hyn heddiw, y byddem ni wedyn yn rhyddhau cyfyngiadau mewn ardaloedd lle'r ydym ni'n gwybod bod llawer iawn o achosion eisoes, ac rwy'n credu y byddai hynny'n gamgymeriad. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd—ni yn y ddeddfwrfa ac aelodau'r cyhoedd hefyd a'r rhai hynny sy'n aelodau o'r Llywodraeth—ond rwy'n credu bod y cam dilynol yn gwneud yr achos. Ac mae'r un peth yn wir am y gogledd hefyd. Nid ydym yn trafod rheoliadau'r gogledd heddiw, wrth gwrs, ond ym mhob un o'r awdurdodau hynny yn y gogledd y gwnaethom ni roi cyfyngiadau lleol arnyn nhw, mae pob un ohonyn nhw ymhell y tu hwnt i'r marc 50, ac rwy'n credu mai'r peth iawn i'w wneud oedd gweithredu pan wnaethom ni.
O ran y broses, rydym ni eisoes wedi ei disgrifio hi o'r blaen; mae gennym ni hefyd y prif swyddog meddygol a'r cyd-gadeiryddion celloedd cynghori technegol yn cymryd rhan. Ac mae gennym ni y cyngor hwnnw gan bob un o'r timau rheoli digwyddiadau sy'n dwyn ynghyd bartneriaid lleol. Mae gennym ni hefyd yr heddlu perthnasol ar gyfer yr ardal hefyd.
O ran cyfyngiadau teithio, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi nodi'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Rydym ni'n dymuno gweld yr ymateb ffurfiol i'r llythyr, ond rydym ni yn barod i weithredu i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni o ran diogelu iechyd y cyhoedd. Pwrpas y mesurau cyfyngiadau teithio yw cyfyngu'r feirws mewn ardal lle mae nifer uwch o achosion a hefyd i ddiogelu ardaloedd lle mae nifer llai o achosion. Nawr, nid oes gennym ni ddiddordeb mewn dweud bod hyn yn ymwneud â Lloegr na'r Saeson; mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag unrhyw ardal lle mae problem o ran nifer uchel o achosion, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac ymdrin ag ef. Rwy'n credu y byddai o fudd i bob un ohonom ni mewn gwirionedd, gael dull mwy cyffredin o wneud hynny ledled y DU. Mae Llywodraeth yr Alban yn defnyddio dull gweithredu sy'n debyg ar y cyfan ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael y dull gweithredu ar y cyd hwnnw, ond os na allwn ni argyhoeddi Llywodraeth Lloegr i weithredu yn yr un ffordd, yna byddwn ni'n defnyddio ein pwerau, ond byddwn yn gweithredu ar ein cyfrifoldebau i wneud hynny o dan ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd.
Gofynnodd Huw Irranca-Davies am y diwydiant teithio ac mae gennym ni farn glir iawn ein bod ni'n siomedig iawn yn y ffordd y mae rhai rhannau o'r diwydiant teithio wedi ymddwyn. Mae'r rhain yn gyfyngiadau cyfreithiol ar yr hyn y gall pobl ei wneud, ac os bydd pobl yn mynd ar wyliau o un o'r ardaloedd hyn sydd dan gyfyngiadau ac yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd, Birmingham, Bryste neu unrhyw un arall, yna byddan nhw'n torri'r gyfraith, ac nid yw hynny'n sefyllfa y dylai cwmnïau teithio orfodi pobl iddi—i ddewis rhwng colli swm sylweddol o arian neu dorri'r gyfraith a chymryd y risg. Rwyf i hefyd yn meddwl nad yw'n dda i'r diwydiant teithio ei hun. Pe byddai rhywun yn gadael ardal yng Nghymru lle ceir llawer o achosion, i fynd ar daith hedfan ac o bosibl i achosi lledaeniad ar yr awyren honno neu mewn cyrchfan, nid wyf i'n credu y byddai'n ddiwrnod da i'r diwydiant teithio wrth esbonio pam yr oedd wedi gweithredu yn y fath ffordd a oedd, i bob pwrpas, yn annog pobl i dorri'r gyfraith.
Byddaf i'n ymdrin yn awr â'r pwyntiau mwy pendant gan y bobl sy'n anghytuno ac yn gwrthwynebu'r rheoliadau. O ran y gogledd, byddwn yn trafod y rheoliadau hynny yr wythnos nesaf, ond fel y dywedais i, mae'r pedwar awdurdod yn y gogledd sydd mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau ychwanegol ymhell y tu hwnt i 50. Mae Gwynedd mewn sefyllfa wahanol i rai o'r awdurdodau hynny, oherwydd bod cyfradd Gwynedd wedi codi, ond rydym yn hyderus o'r data ychwanegol sydd gennym ni o'r broses profi, olrhain a diogelu ei fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn grŵp penodol o neuaddau preswyl myfyrwyr. Nawr, mae nifer yr achosion yn gymharol fach, mewn gwirionedd, yn ôl y darlun cyffredinol, ond mewn sir fel Gwynedd, gyda'r boblogaeth sydd ganddi, mae'n cynyddu'r gyfradd ymhell y tu hwnt i 70 yn ôl ffigurau heddiw. Ond oherwydd ein bod yn hyderus ynghylch ble mae'r lledaeniad—nad yw wedi mynd yn drosglwyddo cymunedol ym Mangor—nid oes angen i ni gymryd y camau ehangach hyn. Felly, rydym ni yn gosod y bar yn uchel wrth ystyried pa un a ddylem ni ymyrryd yn rhyddid pobl. Dyna'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio. Mae'n helpu i lywio'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yn Llanelli, lle mae cefnogaeth eang iddo. Felly, os yw'r data yn caniatáu i ni weithredu'r dull hwnnw, byddwn ni yn gwneud hynny, ac mae'n ystyriaeth reolaidd i'r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith.
O ran y cyfleoedd ar gyfer dadl amser real, wel, mae hwnnw yn ddewis i'r ddeddfwrfa yn y fan yma. Caiff y rhain eu gwneud o dan weithdrefnau sydd ar waith; maen nhw'n weithdrefnau sy'n agored, gan ddarparu deddfwriaeth gadarnhaol, ond mae'n rhaid i'r ddeddfwrfa gytuno arnyn nhw er mwyn iddyn nhw barhau mewn grym. Ac, wrth gwrs, o fewn Senedd y DU, nid oes ganddyn nhw yr un weithdrefn; mae mwy o graffu yma nag ar draws y ffin, ac rwyf i'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n ddewis i'r ddeddfwrfa yng ngweithrediad ei busnes a yw'n dymuno i adroddiad y pwyllgor fod yn rhan o'i hystyriaeth, oherwydd pe baen nhw'n dewis peidio â gwneud hynny, yna gallem ni, wrth gwrs, fod yn trafod y rheoliadau hyn yn gynharach. Rydym ni yn agored iawn i alluogi'r Aelodau i arfer eich swyddogaeth fel deddfwyr, cyn gynted â phosibl, i graffu ar yr hyn sy'n cael ei wneud.
O ran y cyrffyw 10 o'r gloch, unwaith eto, mae'n gyrffyw tebyg i'r un sydd wedi ei gyflwyno yn Lloegr. Mae gennym ni ychydig mwy o ryddid ar gyfer, os hoffech chi, amser 'gorffen eich diod', a rhan o'r rhesymeg dros hynny yw bod problem ynglŷn â chysondeb y neges. Pan ddywedodd Lloegr eu bod yn mynd i ddewis gweithredu'r dull 10 o'r gloch, bu'n rhaid i ni ddewis pa un a oeddem ni'n cadw at y dull 11 o'r gloch ai peidio; fe wnaethom ni ddewis peidio â gwneud hynny. Mae'n cynorthwyo cysondeb y neges ac yn cynorthwyo cydymffurfiaeth. Mae yna broblem ac rydym ni yn wirioneddol pryderu ynghylch pa un a ydym ni'n adleoli'r gweithgarwch ai peidio. Mae hynny'n helpu i ategu'r rhesymeg dros gadw eiddo trwyddedig ar agor, mewn gwirionedd, am rywfaint o'r amser. Ond mae pob un tîm iechyd cyhoeddus wedi dweud wrthym ni, o ran y cyfyngiadau, eu bod yn credu bod lledaeniad eilaidd o fewn safleoedd trwyddedig a bod angen cyfyngiad ffurfiol ar faint o amser y caiff pobl fod mewn safleoedd trwyddedig. Gan fod alcohol yn rhyddhau rhwystrau, ac rydym ni wedi gweld heriau penodol gyda phobl o ran digwyddiadau lledaenu wrth iddyn nhw yfed tan yn hwyr yn y nos ac o bosibl yn methu â chofio eu holl gysylltiadau hefyd. Felly, y mae wedi ei seilio ar wybodaeth leol ac y mae wedi ei seilio ar ddull gweithredu ledled y Deyrnas Unedig. Ac, mewn gwirionedd, fe ddaw o gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr i bennu'r mesur 10 o'r gloch yn gyntaf.
Rwyf i wedi siomi y bydd Aelodau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg. Rwy'n credu bod hynny yn gam difrifol iawn i'w gymryd pan all pawb weld heddiw fod y ffigurau mor uchel yn yr ardaloedd hynny fel eu bod nhw yn peri risg i ddinasyddion yn yr ardaloedd awdurdodau lleol hynny ac i ddinasyddion mewn rhannau eraill o'r wlad. Rwy'n gofyn unwaith eto i'r Aelodau Ceidwadol ailystyried eu hymagwedd, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, gan gynnwys fel deddfwyr. Nid wyf i'n cilio oddi wrth bobl sy'n gofyn cwestiynau anodd, ond rwyf i yn gofyn i bobl arfer eu cyfrifoldebau, oherwydd bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i gadw'r wlad yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus a hynod niweidiol hwn. Nid wyf i'n dymuno dychwelyd i'r lle hwn a gorfod darllen y ffigurau marwolaeth cynyddol yr ydym ni i gyd yn eu cofio o fis Ebrill a mis Mai. Rwy'n gofyn i bobl ystyried eto ac yn gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.