Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor a chlercod y pwyllgor am eu gwaith anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Yn sicr, fe olygodd COVID-19 na fu hwn yn ymchwiliad cyffredin. Roedd gweithio o bell yn gwneud cynnal ymchwiliad o'r fath hyd yn oed yn fwy heriol. Fodd bynnag, mae'r heriau a wynebir gan aelodau'r pwyllgor yn pylu'n ddim o'u cymharu â'r heriau a wynebir gan y gymuned ehangach.
Mae COVID-19 wedi achosi marwolaeth dros 1 filiwn o bobl ledled y byd, a thros 1,600 o bobl yng Nghymru. Yn anffodus, gall hyd yn oed y rheini sy'n gwella o'r clefyd ofnadwy hwn wynebu cyflyrau hirdymor sy'n cyfyngu ar fywyd. Cefais etholwyr yn dweud wrthyf eu bod yn dal i'w chael hi'n anodd anadlu fisoedd ar ôl gwella o COVID-19. Nid yw effeithiau COVID hirdymor ond yn dechrau cael eu deall, ond rhaid i Lywodraethau helpu'r rhai yr effeithir arnynt a sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth angenrheidiol. Mae'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael yn parhau i gynyddu wrth i nifer yr heintiau barhau i ledaenu, ac er mwyn ceisio atal cynnydd esbonyddol yn y gyfradd sy'n marw, caeodd Llywodraethau rannau helaeth o'r economi, gan achosi un o'r cwympiadau economaidd mwyaf mewn hanes.
Fel y darganfu ein pwyllgor, mae'r dirywiad wedi taro ac wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, ac wedi cyfyngu ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau. Mae mesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar y lledaeniad hefyd wedi cael effaith anghymesur ar iechyd meddwl a lles pobl hŷn a phobl ag anableddau. Er ein bod yn cymryd camau i atal y coronafeirws rhag lledaenu, rhaid inni liniaru'r effaith a gaiff ar fywydau pobl, a'r ffordd orau y gallwn gyfyngu ar yr effaith COVID ar fywydau pobl yw symud oddi wrth y cyfyngiadau symud. Yn anffodus, ni allwn wneud hynny heb i bawb ufuddhau i fesurau cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus ac arfer hylendid dwylo da, oherwydd mae gweithredoedd hunanol rhai pobl wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a chamau anochel i osod cyfyngiadau llymach ar fywydau pobl, cyfyngiadau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles economaidd pobl, cyfyngiadau sydd wedi cael effaith anghymesur ar genedlaethau iau. Amharwyd ar addysg pobl ifanc, cafodd eu harholiadau eu canslo a newidiodd bywyd prifysgol yn ddramatig.
Fel y darganfu'r pwyllgor, y gweithwyr ieuengaf sydd wedi'u taro galetaf gan y mesurau cau, gyda chyflogeion o dan 25 oed bron deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sectorau a gaewyd. Yr un gweithwyr ifanc hynny fydd yn gorfod talu'r bil am y biliynau o bunnoedd a wariwyd ac a fydd yn parhau i gael eu gwario i ymdrin ag effeithiau'r pandemig hwn—yr un genhedlaeth ag a adewir i frwydro yn erbyn effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd a thrychineb ecolegol. Er mai pobl ifanc yw'r lleiaf tebygol o ddioddef effeithiau difrifol yn sgil feirws SARS-CoV-2, anghydraddoldeb mwyaf y pandemig hwn yw mai hwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan fesurau sy'n ceisio cyfyngu ar ei ledaeniad. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i liniaru'r effeithiau, i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau na fydd unrhyw gyfyngiadau pellach ac i ddarparu cymorth ychwanegol i wella cyfleoedd bywyd pobl dan 25 oed. Diolch yn fawr.