Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n Cadeirydd a'n clercod, ac yn enwedig y rhai a roddodd dystiolaeth am ein helpu i gyflwyno argymhellion eang eu cwmpas mewn perthynas ag adroddiad ein pwyllgor ar anghydraddoldeb yn ystod pandemig COVID-19.
Mae un peth yn gwbl glir: mae'r anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd llym sydd wedi bod yn bresennol erioed wedi miniogi o ganlyniad i'r pandemig. O'r herwydd, mae'r pwyllgor yr un mor glir fod yn rhaid i'r ymatebion i'r pandemig ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn fwyaf agored i niwed yn sgil y feirws hwn ac sy'n wynebu'r perygl mwyaf o weld yr anghydraddoldeb hwnnw'n dyfnhau ac yn magu gwraidd: rhai sydd mewn tlodi eisoes, mewn gwaith ansicr ar incwm isel; rhai sydd â chyrhaeddiad addysgol a lefel sgiliau is, yn y tai gwaethaf, a thai rhent preifat gorlawn ac ansafonol; rhieni sengl, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt yn fenywod; rhai sy'n ennill cyflogau is o grwpiau ethnig sy'n gweithio mewn cyflogaeth ansicr am gyflogau isel, yn agored i'r arafu economaidd a'r anghydraddoldebau iechyd sy'n effeithio ar ddynion a phobl hŷn, ond gyda feirws niweidiol yn targedu pobl o grwpiau penodol o bobl dduon, pobl Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig; y menywod sydd, gan mwyaf, wedi ymgymryd â rolau gofalu di-dâl ychwanegol am blant a pherthnasau hŷn yn sgil COVID-19; plant â chyrhaeddiad addysgol isel, a fydd wedi syrthio ymhellach ar ei hôl hi; plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol, y bydd diffyg cymorth addysgol a chymorth ehangach hefyd yn effeithio arnynt yn ystod y pandemig; pobl anabl sydd wedi gweld eu byd yn crebachu oherwydd mesurau COVID angenrheidiol; gofalwyr a phobl hŷn sy'n derbyn gofal gartref, neu mewn lleoliad preswyl, sydd hefyd wedi gweld byd COVID yn cau o'u cwmpas; ac ymfudwyr, sy'n fwyaf tebygol o fod yn gweithio yn y sectorau sydd wedi cau, ac sydd hyd yn oed yn fwy agored i niwed drwy eu mynediad cyfyngedig at fudd-daliadau a chronfeydd cyhoeddus eraill.
Dyma'r un bobl, ar y cyd ac fel unigolion—oherwydd y tu ôl i hyn mae miloedd ar filoedd o straeon dynol unigol—a oedd eisoes yn agored i dlodi ac anghydraddoldeb o'r blaen, ond mae gwyntoedd llym coronafeirws wedi chwalu'n rhacs yr amddiffynfeydd a oedd ar waith yn flaenorol. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn, neu wedi derbyn i raddau helaeth neu mewn egwyddor, y mwyafrif helaeth o'n hargymhellion—felly, er enghraifft, ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau hawliau dynol a'n dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus; ar iechyd a gofal a chasglu data sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws; ar effaith Deddf Coronafeirws 2020 ar fesurau sy'n effeithio ar ddyletswyddau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl; ar strategaethau lleihau tlodi a thargedau a dangosyddion perfformiad; ar brydau ysgol a gwyliau'r haf; ar fesurau gwaith teg i adferiad a arweinir gan werthoedd, a gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg; ar gyllid ychwanegol i wasanaethau cynghori ar fudd-daliadau a chyflogaeth a gwahaniaethu, yn enwedig ar gyfer cyflogeion BAME ac anabl; ar ymgyrch i annog pobl i hawlio budd-daliadau; ar archwilio hawl awtomatig i fudd-daliadau datganoledig; ar adolygu a chyflwyno offeryn asesu grŵp cynghorol BAME; ar hyrwyddo gwaith teg a hyblyg i bob cyflogwr sy'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru; cynyddu incwm gofalwyr di-dâl drwy ostyngiadau yn y dreth gyngor; ar adolygu hygyrchedd ac argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i ddynion o grwpiau economaidd-gymdeithasol is; ar ddarparu model ariannu cynaliadwy ar gyfer y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol cyn diwedd y Senedd hon; ar gasglu data ar gyfer dioddefwyr hŷn sydd wedi dioddef camdriniaeth; ar ddiweddaru ac adolygu cydlyniant cymunedol a chynlluniau a fframweithiau troseddau casineb; a rhaid i mi ddweud, ar lobïo Llywodraeth y DU am godi cyfyngiadau i'r rheini 'nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus'; ar hyfforddiant ymwybyddiaeth ymfudwyr i staff cyhoeddus ar y rheng flaen; ac ar dargedu cymorth cyflogaeth at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, ac yn y blaen.
Nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod un neu ddau o'n hargymhellion gyda rhesymau, a dim ond mewn egwyddor y maent wedi derbyn rhai ohonynt, fel y dywedais. Ond rwy'n croesawu'r ffaith bod gennym Lywodraeth sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r mwyafrif llethol o'r argymhellion, ac yn wir nid yw wedi oedi cyn gweithredu ar lawer ohonynt yn barod. Mae'n amlwg wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi'u hamlygu i'r fath raddau gan y pandemig hwn. Os daw unrhyw beth cadarnhaol o gwbl allan o drasiedi bersonol a dynol COVID-19, lle mae llawer wedi colli eu bywydau a'u hanwyliaid, does bosibl nad ailgadarnhau ein hymdrechion i leihau'r anghydraddoldebau mewn bywyd sy'n deillio ar hap o amgylchiadau geni a daearyddiaeth pobl fydd hynny. Gadewch i ni estyn ein dwylo ymhellach i helpu pobl i godi ar eu traed pan fydd y byd i'w weld bob amser yn eu llorio. Diolch.