Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 7 Hydref 2020.
Gan droi at yr argymhellion y dylem adeiladu ar weithredu'r cysylltiadau iechyd cyhoeddus sydd wedi'u hargymell yng ngrŵp cynghorol BAME, rwy'n derbyn yr argymhelliad hwnnw'n llwyr, fel y dywedais ddoe, ac rydym yn parhau i sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn o ran sut rydym yn cyfleu'r neges a sut rydym yn gweithio gyda grwpiau difreintiedig, a'n bod yn cael y cyfathrebu'n iawn. Dyna pam y mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl mor bwysig, a gall y grŵp cyfathrebu hygyrch ddysgu oddi wrth y rhai sydd â phrofiad byw, pobl anabl, sy'n ymuno â ni i ddweud wrthym sut y dylem gael hyn yn iawn.
Rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod eu tudalennau gwybodaeth ar y coronafeirws yn cael eu cyfieithu i dros 100 o ieithoedd, a'u dosbarthu drwy ein rhwydweithiau. A hefyd, mae ein gwefan cenedl noddfa yn darparu gwybodaeth wedi'i chyfieithu ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Soniais ddoe am ein cyllid ar gyfer gweithwyr allgymorth llinell gymorth BAME ym mhob bwrdd iechyd ar gyfer gweithio gyda dinasyddion BAME, a chydnabod hefyd fod hyn yn ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth a phawb yn gallu cael cymorth a chyngor perthnasol.
Felly, mae eich adroddiad yn ymdrin â chynifer o feysydd polisi ond mae addysg yn allweddol, ac fe'i crybwyllwyd yn y ddadl. Mae'n amlwg nad yw llawer o ddysgwyr wedi datblygu cymaint ag y gallent a bod rhai wedi cael eu heffeithio'n fwy difrifol nag eraill. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, fel y gwyddoch—rydych wedi dweud yn yr adroddiad—cyhoeddodd y Gweinidog addysg fuddsoddiad o £29 miliwn i recriwtio, adfer a chodi safonau er mwyn sicrhau bod ysgolion a disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr angen am well data ar gydraddoldebau. Rydym wedi cymryd camau i wella ansawdd data ar ethnigrwydd a marwolaethau coronafeirws drwy weithredu'r e-ffurflen, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr iechyd. A byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y GIG a gofal cymdeithasol i annog camau i gofnodi data cydraddoldeb yn well mewn cofnodion staff a chofnodion iechyd ehangach, a goresgyn amharodrwydd rhai dinasyddion i ddarparu gwybodaeth. Ac rydym wrthi'n gweithio gydag asiantaethau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi cipolwg newydd ar y data sydd gennym. Yn y bôn—ac unwaith eto, crybwyllwyd hyn ddoe—bydd ein cynlluniau sy'n datblygu ar gyfer uned gwahaniaethau ar sail hil yn cryfhau ein capasiti a'n gallu i weithredu ar yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym.
Yn ddealladwy, ataliwyd yr adolygiad o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru dros dro yn ystod y pandemig, ond mewn ffordd debyg, wrth gwrs, ataliwyd rhwymedigaethau adrodd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus am chwe mis gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ond rydym yn ailgychwyn y gwaith hwnnw, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i wella'r canfyddiadau a chyhoeddi data ar gyflogaeth a chydraddoldebau eraill. A bydd canfyddiadau'r gwaith ymchwil ar gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth ar gyfer gwaith adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau ar gyfer cenedl gwaith teg a nodir yn 'Gwaith Teg Cymru', ac yn derbyn argymhellion y pwyllgor ein bod yn sicrhau adferiad a arweinir gan werthoedd drwy fabwysiadu mesurau gwaith teg ychwanegol. Rwyf am sôn am wasanaethau cynghori, yr un gronfa gyngor sy'n helpu i ateb y galw cynyddol am fynediad at wasanaethau cynghori, sy'n hollbwysig ar gyfer trechu tlodi; dyfarnwyd £8.2 miliwn o arian grant i ddarparwyr, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol ar gyfer budd-daliadau lles, cyflogaeth a gwahaniaethu.
Ychydig o bwyntiau terfynol cyn i mi orffen. Rwy'n credu bod y pwynt am y gronfa cymorth dewisol a'ch argymhellion yn ei chylch yn bwysig, oherwydd ers 2013 rydym wedi gwneud dros 370,000 o ddyfarniadau, gyda mwy na £66.4 miliwn yn cael ei wario mewn cyllid grant i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed. Credaf fod yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig wedi bod yn allweddol, a gwn eich bod yn ei groesawu; mae wedi ymateb i anghenion pobl. Ar hyn o bryd, mae 66 y cant o'r gronfa'n ymwneud â thaliadau brys. Ac rydym wrthi'n sefydlu grŵp comisiynydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a fydd yn cefnogi dulliau mwy strategol a chynaliadwy o gomisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys gwasanaethau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae Aelodau wedi sôn am argymhelliad 38. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn gofyn i ni lobïo Llywodraeth y DU i godi'r cyfyngiadau i'r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus a'ch bod yn ymuno â Llywodraeth Cymru, oherwydd rydym yn dadlau dros newidiadau i'r system fewnfudo ac rydym yn croesawu eich cefnogaeth. Ond nid ydym wedi cael ymateb i lythyr y Cwnsler Cyffredinol, fel y dywedwn mewn ymateb i'r argymhelliad, yn annog yr Ysgrifennydd Cartref i godi'r cyfyngiadau yn ystod argyfwng COVID-19. Ond Llywodraeth Cymru sydd wedi ymateb i wella'r gefnogaeth i'r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus. Ond gall y pwyllgor ein helpu i lobïo Llywodraeth y DU, ac yn wir gall ein Ceidwadwyr Cymreig wneud hynny.
Mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, ac nid yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r anghydraddoldebau hyn ac i ddileu tlodi plant wedi llacio, ac rydym yn parhau i weithio i gyflawni ein nodau. A'r wythnos nesaf edrychaf ymlaen at wneud fy natganiad ar y fframwaith troseddau casineb rydym yn ei ddatblygu—yn wir, fe fydd yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Gwn y bydd pob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion a gyflwynwyd gennych yn eich adroddiad. Diolch i chi a'ch pwyllgor, Gadeirydd, am gynhyrchu'r adroddiad pwysig hwn i ni yn y Senedd yn y cyfnod heriol hwn. Diolch yn fawr.