Mewnfuddsoddi yn Rhanbarth Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:38, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n dilyn hynt diwydiant gweithgynhyrchu'r DU, ac mae yna newyddion gwych i'w glywed am ffatrïoedd newydd a datblygiadau technolegol. Dros y misoedd diwethaf, dim ond un cyhoeddiad a welais am ogledd Cymru, am gwmni rhagorol Village Bakery yn Wrecsam. Beth y mae eich adran yn ei wneud i sicrhau bod Cymru, ac yn enwedig gogledd Cymru, yn cael ei chyfran o'r mewnfuddsoddiad hwnnw?