Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, yn gyntaf, nifer o bwyntiau a sylwadau ar yr hyn y mae Janet Finch-Saunders newydd ei ddweud yn Siambr y Senedd: rydym yn rhoi bywydau yn gyntaf, rydym yn blaenoriaethu bywydau pobl, ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny; roedd y Prif Weinidog yn iawn yn yr hyn a ddywedodd ddoe; ac yn drydydd, roedd y tîm rheoli achos lluosog a gyfarfu yr wythnos diwethaf i benderfynu ar gyfyngiadau yng ngogledd Cymru yn unfrydol. Roedd hwn yn benderfyniad na wnaed—[Torri ar draws.]