Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 7 Hydref 2020.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn mai'r gweithlu yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r mwyaf medrus yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy fel peiriannydd ac wedi gweld hyn â’m llygaid fy hun. Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi fod yn ymwybodol o'r ffaith hon hefyd, a dylem ei hyrwyddo’n frwd. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn sôn yn gynharach am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau pwysig fel y ganolfan logisteg yn Tata Steel yn Shotton, a Phorth y Gogledd hefyd?