Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd. O gofio mai rhan o'r strategaeth i adfywio economi Cymru ar ôl COVID-19 yw ehangu'r sector peirianneg yng Nghymru, a fyddai'r Gweinidog yn amlinellu lle mae'r ehangu hwn yn fwyaf tebygol o ddigwydd? Wrth hynny, rwy'n golygu'r cwmnïau a'r prosiectau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried yn bwyntiau angori newydd neu'n bwyntiau angori presennol ar gyfer yr ehangu hwn.