Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, rwy'n siŵr y byddai gennyf fi, a fy nghyd-Aelodau ddiddordeb brwd iawn yn y cynnig, yn enwedig Kirsty Williams, y gweinidog addysg. Byddwn yn edrych arno'n ofalus iawn, a gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda TVR a Britishvolt. Mae'r rhain yn gyfleoedd sylweddol i economi Cymru, ac mae TVR yn arbennig yn cynnig cyfle enfawr i Flaenau'r Cymoedd hefyd, nid yn unig o ran creu swyddi ond o ran yr enw da y gallai'r brand ei gynnig i'r ardal.
Dylwn gofnodi fy niolch heddiw i'r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol sydd wedi profi'n hynod werthfawr yn ystod y pandemig, gan gynnig cymorth am ddim o safle Glynebwy, a gallaf sicrhau'r Aelod heddiw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni menter y Cymoedd Technoleg.