Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Hydref 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr ei fod yn deall bod llawer o fusnesau, yn enwedig busnesau llai o faint, mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac mae Llanelli yn un ohonynt, eisoes wedi dioddef yn eithaf difrifol drwy argyfwng COVID, yn enwedig mewn meysydd fel lletygarwch. Maent yn gweithio ar elw bach iawn. Ni fydd ganddynt adnoddau i'w galluogi i fuddsoddi mewn adferiad.
O ran y cymorth brys i'r busnesau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnynt, a all ddweud wrthym pa lefelau o niwed y mae angen i'r busnes allu dangos ei fod wedi'i ddioddef er mwyn gallu cael y cymorth, ac a all ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y ceir mynediad at y cymorth hwnnw? Er y gallai fod gan gwmnïau mwy o faint staff arbenigol sy'n gallu estyn allan at Busnes Cymru a llenwi'r ffurflenni priodol, rwy'n siŵr y bydd yn deall y bydd rhai o'r busnesau lleol llai o faint yn gweld hynny i gyd braidd yn frawychus, a tybed a oes rôl i lywodraeth leol ei chwarae mewn perthynas â'r cymorth brys hwn.