Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o ofidiau a phryder parhaus ynghylch trefniadau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n teithio o Dorfaen a Sir Fynwy i ac o Henffordd; mae'n fater a godais gyda'r Trefnydd ddoe, a dywedodd y byddai yn ei godi gyda chi. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, mae myfyrwyr yn cael eu gwahanu oddi wrth deithwyr eraill a'u cludo ar fysiau, taith sy'n cymryd dwywaith cymaint o amser â'r trên. Dywedir wrthyf fod y bysiau'n annigonol ac nad oes mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith o gwbl. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru am hyn a'i gwneud yn glir i Trafnidiaeth Cymru fod y sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol ac y dylid trin pobl ifanc â'r un parch ac urddas â theithwyr eraill sy'n talu'r ffioedd.