Cymorth Cyfreithiol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:15, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'n codi'r mater hynod sensitif hwn. Byddai cynllun cymorth cyfreithiol wedi'i gynllunio'n dda yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn. Rydym ymhell iawn o allu gwneud hynny yn sgil toriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel Llywodraeth y DU. Byddem am fod mewn sefyllfa yng Nghymru lle byddai'r materion hynny yn ein dwylo ni, fel y gallem gynllunio system i fynd i'r afael â'r union fathau o heriau y mae Michelle Brown yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Lle rydym wedi gallu ymyrryd a darparu gwasanaethau cynghori a chymorth ar gyfer trais domestig, fe fydd hi'n gwybod ein bod wedi gallu gwneud hynny. Ond mae angen ymyrraeth sylweddol iawn ar y mathau o ymyriadau y mae'n eu disgrifio, ac yn sicr dyna pam, os yw Llywodraeth y DU yn dymuno, fel petai, parhau â chadw'r pwerau hyn yn ôl, mae'n ddyletswydd arnynt i ddarparu'r cyllid ar gyfer y lefelau o ddiogelwch sydd eu hangen ar unigolion yn yr amgylchiadau hynny. Ond hoffwn ei chyfeirio at y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe, sy'n cydnabod bod nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, a byddwn yn ceisio cefnogi gwasanaethau trais domestig ymhellach o fewn yr adnoddau sydd gennym, fel y nodwyd yn y ddogfen ddoe.